Dagrau Serch
Dyddgu [o] liw dydd goleuaf,
[rho imi] dy nawdd, er unig Fab Arglwydd Dduw,
dau rudd [fel] Mair o diroedd Mael,
4 llygaid a dwy ael duon.
Rwyt wedi cael effaith arnaf ([roedd] dilyn serch
fel hudoliaeth), ferch faeth.
Ferch fonheddig â llefaredd mwyn a da,
8 poenus yw ymwneud â serch.
[Un â] dwywaith lliw ewyn dwr llafar a bas,
delw ddisglair ar len o wead glas,
bydded iddi fod yn fwriad gennyt dalu i'th frawd
12 am dyfu mawl iti â'i dafod.
Dygais iti [rodd] well na dau dlws,
cyfran fwyn, da y gwn [mai felly] y mae.
Dyn [wyf] yn edwino fel bedw mân
16 ([un] ddwywaith lliw ton) amdanat ti;
Dyfed a wyr mai difywyd yw['r dyn hwnnw]
(dysg ddi-fai), a Dafydd ydyw.
Dysg eofn, os af ryw ddydd
20 (corff eiddil) dan dafelli coed ir,
difera fy nagrau (mynegais yn ddwfn,
gwych [yw] fy mhoen) ar hyd fy nilledyn.
[Gwr] diofal, dyfal, sy'n taflu glaw
24 dan ael ydwyf, deon wylo.
Dy fardd da yn anad neb,
digroenodd dagrau ei wyneb.
Dyn wyf [sydd], oherwydd dy serch, ferch hardd ddisglair,
28 yn ddifaddeuant, yn wywedig a dagreuol,
[bob] dydd o'm hoes, [ferch] ddwywaith lliw eira mân,
[â] synnwyr dichellgar [a] chorff disglair.
Dyddgu, fy nhrysor sy'n cael anrhydedd,
32 ferch hardd (du [yw] lliw dy ael),
rhodd gyson, pes rhoddet yn rhad imi,
(llygad di-fai,
gwnaethpwyd cyfeillach yn ddiwerth ddechrau Mai)
36 dy olwg a wnâi gyfoeth holl Loegr yn ddiwerth.
Haeddaf fendith am air o fawl,
haeddi fawl, myn delw Fair.
Sefydlog yn fy mron yw dy ddinistr,
40 [ferch ag] ymddangosiad hyfryd [sy'n hanu] o lwyth Tewdwr.
Di-fudd yw dadl dy fardd,
dibrin [yw'r] gemau ar dy dalcen llydan.
Rhoddaist waywffon lem dan fron friwedig,
44 di-boen gennyt ti yw gwneud hynny.
Amddifad o'th gariad ydwyf,
da [yw] dy ffurf, a di-dâl ydwyf,
onid cael (da ryfeddol yw cwyn)
48 dy lusgo [ataf], fy nymuniad;
dau lygad dyn yn edrych,
tywalltwyr llif wedi eu diystyru.