Edited Text: 90 - Achau Hiraeth

Achau Hiraeth

Digwsg fûm am ail Degau,
Dig er ei mwyn yw'r deigr mau.
Deufis am lun yr unferch
4 Ni chysgais hun, ni chwsg serch,
Draean noswaith hyd neithwyr,
Drwm lwc, hun drymluog hwyr.

   A myfi yn ymafael
8 Â chwr fy hun, fy chwaer hael,
Gofyn a wnaeth ar gyfair,
Gafael cariad, irad air,
Gofyniaeth hiraeth hoywrwysg,
12 Gofyniad braisg geimiad brwysg,

    'Mae bardd Dyddgu loywgu law?
Pwy dy henw? Paid â hunaw'.
Agerw fydd murn dolurnwyf.
16 'Egor y ddôr. Agwrdd wyf'.

    'Perhôn egori, pe rhaid,
Paddiw? Neu pwy a ddywaid?'

    'Mae rhai i'm galw, disalw dwys,
20 Amheuwr hun amhowys,
Hiraeth fab cof, fab cyngyd,
Fab gwae fy meddwl, fab gwŷd,
Fab poen, fab gwenwyn, fab bâr,
24 Fab golwg hen, fab galar,
Fab ehudnych, fab hoednwyf,
Fab Gwawl, fab hud, fab Clud clwyf,
Fab deigr, fab digwsg ledlyth,
28 Fab trymfryd, fab hawddfyd fyth,
Fab anhun ddu, fab annerch,
Fab Seth fab Adda, fab serch.

    Gŵr bonheddig, rhyfig rhwyf,
32 Diledach deol ydwyf;
Poenwr dwys, eiriau glwysEigr,
Pennaeth dyledogaeth deigr;
Gweinidog wy', llugwy llu,
36 Gweddeiddgorff hardd, gwiw Ddyddgu,
A hefyd, meddai hoywferch,
Ysbenser ar seler serch.
A Dyddgu annwyl wylfoes
40 Gyda thi a'm gad i'th oes'.

    Cynnwys hwn, cwynofus hwyr,
A wneuthum yno neithwyr,
Cennad Ddyddgu, leuad lwys.
44 Cannoch fyfi o'r cynnwys!