Achau Hiraeth | |
Digwsg fûm am ail Degau, | |
Dig er ei mwyn yw'r deigr mau. | |
Deufis am lun yr unferch | |
4 | Ni chysgais hun, ni chwsg serch, |
Draean noswaith hyd neithwyr, | |
Drwm lwc, hun drymluog hwyr. | |
A myfi yn ymafael | |
8 | Â chwr fy hun, fy chwaer hael, |
Gofyn a wnaeth ar gyfair, | |
Gafael cariad, irad air, | |
Gofyniaeth hiraeth hoywrwysg, | |
12 | Gofyniad braisg geimiad brwysg, |
'Mae bardd Dyddgu loywgu law? | |
Pwy dy henw? Paid â hunaw'. | |
Agerw fydd murn dolurnwyf. | |
16 | 'Egor y ddôr. Agwrdd wyf'. |
'Perhôn egori, pe rhaid, | |
Paddiw? Neu pwy a ddywaid?' | |
'Mae rhai i'm galw, disalw dwys, | |
20 | Amheuwr hun amhowys, |
Hiraeth fab cof, fab cyngyd, | |
Fab gwae fy meddwl, fab gwŷd, | |
Fab poen, fab gwenwyn, fab bâr, | |
24 | Fab golwg hen, fab galar, |
Fab ehudnych, fab hoednwyf, | |
Fab Gwawl, fab hud, fab Clud clwyf, | |
Fab deigr, fab digwsg ledlyth, | |
28 | Fab trymfryd, fab hawddfyd fyth, |
Fab anhun ddu, fab annerch, | |
Fab Seth fab Adda, fab serch. | |
Gŵr bonheddig, rhyfig rhwyf, | |
32 | Diledach deol ydwyf; |
Poenwr dwys, eiriau glwysEigr, | |
Pennaeth dyledogaeth deigr; | |
Gweinidog wy', llugwy llu, | |
36 | Gweddeiddgorff hardd, gwiw Ddyddgu, |
A hefyd, meddai hoywferch, | |
Ysbenser ar seler serch. | |
A Dyddgu annwyl wylfoes | |
40 | Gyda thi a'm gad i'th oes'. |
Cynnwys hwn, cwynofus hwyr, | |
A wneuthum yno neithwyr, | |
Cennad Ddyddgu, leuad lwys. | |
44 | Cannoch fyfi o'r cynnwys! |