Achau Hiraeth | |
Bûm heb gwsg am [ferch] gyffelyb i Degau, | |
Dagrau o ddigofaint sydd i mi o'i phlegid. | |
Ers deufis ni phrofais gwsg o gwbl | |
4 | oherwydd ffurf yr un ferch [hon], ni fydd serch yn huno, |
[hyd yn oed] am draean noswaith hyd at neithiwr, | |
tynged flin, cwsg trwm a hirfaith. | |
Fel yr oeddwn yn cael gafael ar gyrion fy nghwsg, | |
8 | [sef] fy chwaer garedig, |
gofyn a wnaeth [a hithau] gyferbyn [â mi], | |
[un sy'n] gaeth gan gariad, garw [yw] mynegi [hynny], | |
ymholiad [gan] hiraeth grymus ei rwysg, | |
12 | cwestiwn [gan] ormeswr ffyrnig a nerthol, |
'Pa le y mae bardd Dyddgu [a chanddi] law gannaid a thyner? | |
Beth yw dy enw? Paid â chysgu'. | |
(Bydd dichell [sy'n peri] dolur iasol yn [beth] chwerw.) | |
16 | 'Agor y drws. Un grymus wyf fi'. |
'Pe bawn yn agor, pe bai rhaid [gwneud hynny], | |
Paham? Pwy sy'n llefaru?' | |
'Mae rhai yn fy ngalw, [un] dyfal a difai, | |
20 | [yr un] diorffwys sy'n amau [bodolaeth] cwsg, |
yn hiraeth mab cof, mab cynllwyn, | |
mab gwae fy meddwl, mab colled, | |
mab poen, mab gwenwyn, mab llid, | |
24 | mab wyneb henaidd, mab galar, |
mab nychdod parod, mab chwithdod bywiog, | |
mab Gwawl, mab lledrithiol, mab Clud dolurus, | |
mab dagrau, mab digwsg pur wantan, | |
28 | mab amcanion trist, mab esmwythdra parhaol, |
mab anhunedd bygythiol, mab annerch, | |
mab Seth mab Adda, mab serch. | |
Gŵr bonheddig [a chanddo] waed pur [a] rhyfyg [megis] arglwydd | |
32 | ydwyf [ond fy mod] yn alltud; |
cosbwr dygn, clodydd [un] brydferth [megis] Eigr, | |
pennaeth tiriogaeth dagrau; | |
gwasanaethwr wyf, dagrau yn eu lluosogrwydd, | |
36 | Dyddgu deg [a chanddi] gorff hardd a lluniaidd; |
A hefyd, yn ôl y lodes fwyn, | |
[yr wyf yn] ystiward ar seler serch. | |
Y mae Dyddgu annwyl a gwylaidd ei hymarweddiad | |
40 | yn fy ngadael yn dy gwmni weddill dy oes'. |
Derbyn hwn, [un] galarus [dros gyfnod] hirfaith, | |
a wneuthum acw neithiwr, | |
negesydd Dyddgu, [un] brydferth [megis y] lleuad; | |
44 | mawr ddioddefaint [sydd] i mi am [i mi ei] dderbyn. |