1 digwsc vvm am ail degav
2 dic er i mwyn ywr deigr mav
3 dev vis am lvn yr vn verch
4 Ni chysgais hvn ni chwsc serch
5 drayan nosswaith hyd neithwyr
6 drem blec hvn drym blvawc hwyr
7 A myvy yn ymavel
8 A chwr vy hvn vychwaer hael
9 Govyn a wnaid ar gyvair
10 Gavael garriad irad air
11 Govyniaeth hiraeth hoyrwysc
12 Govyniad braisc geimiad brwysc
13 Mae bardd dyddgv loyw gu law
14 Pwy dy henw paid a hvnaw
15 Garw vydd mvrn ddolvrnwy
16 Egor y ddor a gwrdd wy
17 peron egori pe raid
18 pa dduw ne pwy a ddowaid
19 rrai im galw disalw dwys
20 Am hevwr hvn ym howys
21 hiraeth ap kof ap kyngyd
22 vab gwae vymeddwl vab gwyd
23 Ap hvn ap gwenwyn ap par
24 Ap golwc hen ap galar
25 Ap e hvdych ap hoednwy
26 Ap gwawr hvd ap klud klwy
29 Ap anvn ddu ap annerch
30 Ap seth ap adda ap serch
31 Gwr bonheddic ryvic rwy
32 dyledach deol ydwy
33 poenwr dwys air eglwysaigr
34 penaeth dylydogaeth deigr
35 Gwenidawc wy lliw gwy llu
36 Gweddeidd gorff hardd gwiw ddyddgv
37 a hevaid meddai hoyw verch
38 ysbenser ar seler serch
41 [54v] kynwys hwnn kwynovvs hwyr
42 A wnevthvm ynno neithwyr
43 kenad ddyddgu levad lwys
44 kanoch vyvy or kynwys
dd ap gwilym ai kant