Owdl farwnad i Lewelyn ap Gwilym fychan or kryngae yn yfed ysgwier ag
ewyrth i dd. ap gwilim brudydd oedd hwnw yr oedd ef yn gyfarwydd ar fesuaer
ddwy gerdd ag yfo a ddysgodd dd ap gwilm fal y gwelais i o law dd' i hun
1 Dyfed a sommed o symvd mawredd
2 am eryr bro yr hvd
3 doe wiwdymp yn doedvd
4 hyddawn fv a heddiw yn fvd
5 kyn hynn lewylyn olud tiriogaeth
6 ai trigo mae kehud
7 agwrdd wydd y gerdd oeddud
8 egor i mi y gwr mud
17 gwawr nef a llawr alldud yw honn
18 hynn oedd ddygn nas klowud
19 gwae fi geli bob golud
20 gwael fynghyflwr am wr mud
9 pryd glwys prud dadwus prowdud praff awdr
10 proffwydair balch sythdrud
11 prif dda wawd praw ddoedud
12 prudydd ievthudd na fydd fud
13 fingheinllyw difyw deifr helkud baham
14 byhwman deigr nevd glu
15 fynghanllaw nim gadawud
16 fynghar am aur fyngharw mud
21 pendefig gweledig gwlad hud is dwfn
22 ys difai im dysgud
23 pob meistorolwydd a wyddud
24 poened fi er pan wyd fud
25 nevd yt dwfn fy neigr nid difud
fy lle
26 am fy llew kadarnddrud
27 nid tiboen ac nam attebud
28 nid hawdd ymadrawdd a mud
29 gwae fi fod elw glod ai glud nyw ballai
30 heb allel mor doedud
31 gwn ofal dalm gan ofud
32 fyngwawr air mawr am wr mud
45 gwae fi ddwyn brwyn brenhinoedd llai
46 llywodraeth y bobloedd
47 lles tyrfa llias torfoedd
48 llawen gorawen gwyr oedd
33 [78] gwae fi krist keli kaled ywrhyfig
34 ond rhyfawr in kosbed
35 kamp oeddem oll kyn kolled
36 gwympo krair holl gampau kred
49 gwae fi weled trwydded trwg
50 i faddav filwr y twr teg
51 a wnai yn ioes vn yn ysig
52 ar llall do gwall yn dy gwag
37 gwae fi krist keli kalon doll ywr fav
38 wyf fyfyr o ddygyngoll
39 kwmpas eirf kampus arfoll
40 kwympo nudd yn oll
41 gwae fyfif rhif rhoi darpar ar dduw
42 ddwyn yn harglwydd kerddgar
43 nid rhodd gwyl nevd rhwydd galar
44 nad rrhydd ym gerydd am gar
77 diareb yw hon di wyrir y mro
78 a laddo a leddir
79 diben o hyn a dybir
80 dibaid gwae a duw boed gwir
93 a wnaeth aergae a gwae a gwall ir deav
94 e gaiff diwedd gvall
95 a wnel drwg dreigl angall
96 ar llaw ef a ery r llall
85 nid tiofal ffyrf dal ffer
86 ir gelyn a wnel galar
87 a laddo ddyn ai loew ddur
88 i luddias ef a leddir
89 hoew frein flodav diwyd
90 a dderyw yn diwedd kadernyd
91 llwyr yr aeth kyngaeth kyngyd
92 hauarn a chof barn y byd
65 gwr oedd lewylyn gwir ganv prudd
66 kyn rhoi pridd oi ddeutu
67 pwynt rhyfel heb ymgelv
68 penrhaith ar ddyfed faith fv
105 lles bychan bvan yw bod yn rhull folchai
106 yr holl fyd fel rhyd rod
107 llew syberw llios wybod
108 llas ag arf glas gorf y glod
125 gwael fryn gwawl defyrn gwyly defawd gwaith
126 gwaeth bellach fyfyrdawd
127 gwae r kedyrn gwag i kiwdawd
128 gwegry gwyr gwedy gwawr gwawd
81 [79] llithr ddagrau ywr mav medd chweg och allel
82 a chyllell faeliereg
83 llawer och dost ar osteg
84 llathr aur devrn lladd tevrn teg
129 salw a thost am ior kostfrith
130 selerwin bwrdd drin beirdd dreth
131 kwmpas reddf kampus roddfaeth
132 kwympo i gyd kampau byd byth
109 llew olwg farchawg llewylyn foth las
110 ith lys deg yn emlyn
111 llai yw r dysg medd llawer dyn
112 llafar ith ol llyfr ath ofyn
101 kyfiownder yw hynn kyfvndeb keirdd
102 kerwriaeth ddoethineb
103 kowirdant pab kowirdeb
104 korf klod nid vn wybod neb
61 os marw fy ewythr ys mawr ryfig
62 a rifai gymrv fawr
63 nad oeddwn i nai diddawr
64 nad af yngwylld duw fyngwawr
121 wylais lle gwelais gwyly fy arglwydd
122 ond oedd fowrglwy hynny
123 a gair atteb gar yty
124 gwr da doeth egor dy dy
53 gwaer nai a garai ag a ery gweled
54 gwaelod kof am deffry
55 y llys fraith yn arlloes fry
56 ar llysdyn yn arlloesdy
57 llys gwin ag emys ddigamoedd gyllud
58 och golli ai gwnaethoedd
59 llys naf aur lles niferoedd
60 llyw lles pei byw llys pawb oedd
97 dall fydd dydd towyll gwydd gwedy
98 llygad oedd yn lloegr a chymry
99 dwg ith wledd nim gomeddy
100 dor gwyr da freyr duw fry
137 girad a thost pawb a garo dadl
138 aed i lan dudoch heno
139 doethineb da aeth yno
140 diwyd grair dan dywod gro
117 och och y ddol goch ddaly gwyl barchus
118 wedy dy berchen anwyl
119 och wedir ddwyoch ddwywyl
120 och pam nad och pwy nid wyl
113 och am lewylyn dyn doeth a ddoeda
114 a ddoded oi gyfoeth
115 och drynydd yn iach dranoeth
116 och beunydd i ddydd a ddoeth
dd ap Gwilim