i Ddyddgu drwy ddwyn iachau cariad lle gellir dyall faint dyfais berw
awenydd dafydd ap gwilym yn rhogori om barn i ar bawb
1 Disgwsg fum am ail Degau
2 dig er i mwyn ywr deigr mau
3 [140r] deufis iawn am dwf feinferch
4 ni chysgais i ni chwsg serch
5 draean noswaith hyd neithiwyr
6 drwm lwk hun drymluoc hwyr {hun}
7 a myfi yn y mafael {Lwk}
8 a chwr fy hun fy chwaer hael {Trymluog}
9 gofyn a wnaeth ar gyfair
10 gofal cariad irad air {gafael g-}
13 mae bardd dyddgu liwhardd law {Cariad}
14 pwy dy henw? paid a hunaw
15 agwrdd fydd murn ddolurnwyf
16 egor y ddor agwrdd wyf
17 pe rhon ai gori pe rhaid {Dafydd}{dd yn atteb}
18 pa dduw yna pwy ddowaid
19 rhai am geilw diseilw dwys {Cariad}{ynte n drachefyn}
20 am heuwr hun ymhowys {Powys}
21 hiraeth vab cof vab cyngyd {cyngyd}
22 fab gwae fy meddwl fab gwyd
25 fab ehydnych fab hoednwyf {ed ehydnych}
26 fab gwyl fab hud fab clud clwyf
27 fab deigr fab disgwsg ledlyth
28 fab trymfryd fab hawddfydadfyd fyth
23 fab poen fab Gwenwyn fab pâr bar
24 fab golwg laes fab galar
29 fab annyn ddyn fab annerch
30 fab Seth vab addaf fab serch
31 gwr bonheddig rhyfig rhwyf
32 diledach deol ydwyf
37 a hefyd meddai hoywferch
38 yspenser a seler serch {yspenser}
39 a Dyddgu annwyl wylfoes
{Gwylfoes}
40 gida thi am gad ith oes
dafydd ap Gwilim