â â â Y Gainc
1â â â Dysgais ryw baradwysgainc
2â â â Â'r dwylo mau ar dâl mainc,
3â â â A'r dysgiad, diwygiad dyn,
4â â â Eurai dalm ar y delyn.
5â â â Llyma'r gainc ar y fainc fau,
6â â â O blith oed yn blethiadau
7â â â O deilyngfawl edlingferch
8â â â A brydais i â brwyd serch.
9â â â Meddai ferched y gwledydd
10â â â Amdanaf fi, o'm dawn fydd:
11â â â 'Semlen yw hon naws amlwg,
12â â â A symlyn yw'r dyn a'i dwg.'
13â â â Solffeais, o'm salw ffuaint,
14â â â Salm rwydd, ys aelaw 'y mraint,
15â â â Ac erddigan gan y gainc
16â â â Garuaidd, medd gwyreainc.
17â â â Coel fuddbwnc ferw celfyddber,
18â â â Cael ym glod, neud cwlm y glêr,
19â â â Caniadlais edn caneidlon,
20â â â Cân a fyn beirdd heirdd yw hon.
21â â â Gwae fi na chlyw, mawr yw'r ainc,
22â â â Dyddgu hyn o brydyddgainc.
23â â â Os byw, hi a'i clyw uwch clwyd
24â â â Ysbyslef eos beislwyd,
25â â â O ddysg Hildr oddis cildant,
26â â â Gormodd cerdd, gwr meddw a'i cant;
27â â â Llef eurloyw fygr llafurlais,
28â â â Lleddf ddatbing llwybr sawtring Sais.
29â â â Ni wnaeth pibydd ffraeth o Ffrainc
30â â â Na phencerdd ryw siffancainc.
31â â â Poed anolo fo ei fin,
32â â â A'i gywydd a'i ddeg ewin,
33â â â A gano cerdd ogoniant,
34â â â Ni cherydd Duw, na cherdd dant,
35â â â Goleuglaer ddyn golyglon,
36â â â Ac e'n cael canu'r gainc hon.