Y Gainc
   Dysgais ryw gainc baradwysaidd 
   â'm dwylo i ar ben mainc, 
   ac 'roedd yr hyn a ddysgwyd (dyna arfer dyn) 
4   yn enwogi'r delyn am ysbaid. 
   Dyma'r gainc ar fy mainc i, 
   o ganol oed serch yn blethiadau 
   o fawl teilwng merch fonheddig 
8   a luniais i â ffram frodio serch. 
   Meddai merched y gwledydd 
   amdanaf fi (oherwydd fy natur y mae hynny): 
   'Tôn syml, eglur ei dull yw hon, 
12   a thwpsyn yw'r dyn sy'n ei dwyn.' 
   Cenais, drwy fy ystryw wael, 
   salm rwydd, helaeth yw fy mraint, 
   a chân ar y gainc 
16   annwyl, medd gwyr ifainc. 
   Bwrlwm celfydd a phersain sy'n arwydd o gân fendithiol,
		  
   cefais glod, alaw'r glêr, 
   llais peraidd aderyn disglair llon, 
20   cân y mae beirdd hardd yn mynnu ei chael yw hon. 
   Gwae fi na chlyw (mae'r blys yn fawr) 
   Dyddgu y gainc brydyddol hon. 
   Os yw'n fyw, fe'i clyw uwchlaw clwyd 
24   eos lwyd ei mantell, gyfarwydd ei llais, 
   o ddysg Hildr islaw cildant, 
   cân ormodol, gwr meddw a'i canodd; 
   llef wych, loyw ac ysblennydd llais diwyd, 
28   atsain dyner debyg i saltring Sais. 
   Ni wnaeth pibydd rhwydd o Ffrainc 
   na phencerdd y fath gainc gerddorol. 
   Boed ei wefusau'n ddiwerth, 
32   a'i gywydd a'i ddeg ewin, 
   y sawl a fo'n canu cerdd o fawl 
   (ni fydd Duw'n ei geryddu), neu gerdd dant, 
   i ferch ddisglair olau, lon ei llygaid, 
36   ac yntau'n cael y cyfle i ganu'r gainc hon.