â â â Dyddgu a Morfudd
1â â â Ochan fi, drueni drum,
2â â â Eb oir, na wybuum
3â â â Garu cyn oedran gwra
4â â â Hocrell fwyn ddiell fain dda,
5â â â Gywair o ddawn, gywir, ddoeth,
6â â â Gynilgamp gu anwylgoeth,
7â â â Gair unwedd etifedd tir,
8â â â Gorwyllt foethusddyn geirwir,
9â â â Yn gron fferf, yn ddiderfysg,
10â â â Yn gyflawn o'r dawn a'r dysg,
11â â â Yn deg lân, Indeg loywnwyf,
12â â â Yn dir gwydd,-enderig wyf-
13â â â Yn gariad dianwadal,
14â â â Yn lath aur, yn loyw ei thâl,
15â â â Mal y mae, mawl ehangddeddf,
16â â â Dyddgu â'r ael liwddu leddf.
17â â â Nid felly y mae Morfudd,
18â â â Ond fal hyn, faroryn rhudd,
19â â â Yn caru rhai a'i cerydd,
20â â â Rhywyr fun, a rhyhir fydd,
21â â â Yn berchennog, barch uniawn,
22â â â Ty a gwr, yn ddyn teg iawn.
23â â â Nid anfynychach ym ffo
24â â â Am hanner nos am honno,
25â â â Rhag dyn o'i phlas dan laswydr,
26â â â No'r dydd, wyf llamhidydd hydr,
27â â â A'r gwr dygn â'r gair digall
28â â â Dan guraw y llaw 'n y llall,
29â â â Llef beunydd a rydd, rwyddchwant,
30â â â A bloedd am ddwyn mam ei blant.
31â â â Eiddilwr, am ei ddolef
32â â â I ddiawl aed; pam ydd wyl ef,
33â â â Och, gwae ef, ddolef ddylyn,
34â â â Hyd ar Dduw, o hud ar ddyn?
35â â â Llwdn hirllef llydan haerllug,
36â â â Llafur ffôl yw llyfr ei ffug.
37â â â Llwfr a rhyfedd y gwneddyw
38â â â Llefain am riain fain fyw.
39â â â Y Deau ef a'i diun
40â â â Dan ddywedud, barcud bun.
41â â â Nid dawnus, nid dianardd,
42â â â Nid teg gwarandaw, nid hardd,
43â â â Gwr yn gweiddi, gorn gwaddawd,
44â â â Ar gân fal brân am ei brawd.
45â â â Ys drwg o un anhunfloedd,
46â â â Finffug wr, am fenffyg oedd.
47â â â Be prynwn, befr ddidwn bwyll,
48â â â Wraig o'm hoedl, rhyw gam hydwyll,
49â â â Caliwr dig, er cael awr daw,
50â â â Rhan oedd, mi a'i rhown iddaw
51â â â Rhag dryced, weddw dynged wae,
52â â â Y gwr chwerw, y gwyr chwarae.
53â â â Dewis yr wyf ar ungair
54â â â Dyddgu oe charu, o chair.