Dyddgu a Morfudd
Och fi ([rwyf yn] ddrych o drueni)
heb oedi, na fedrais
garu, cyn [iddi gyrraedd] oedran priodi,
4 ferch fwyn, ddi-fai, fain, dda,
lawn o ddawn, gywir, ddoeth,
fedrus ei champ, gu, annwyl, goeth,
yn ymddiddan fel etifedd tir,
8 heb ei thrin, merch yn arddangos moethusrwydd, eirwir,
yn iach a chryf, yn ddi-stwr,
yn gyflawn o'r ddawn a'r ddysg,
yn deg a hardd, Indeg loyw ei nwyf,
12 yn dir heb ei aredig (ych ieuanc wyf),
yn gariad dianwadal,
yn wialen aur, yn loyw ei thalcen,
fel y mae (mawl eang ei briodoledd)
16 Dyddgu â'r ael o liw du.
Nid felly y mae Morfudd,
ond fel hyn (marworyn coch):
yn caru rhai sy'n ei cheryddu,
20 merch wrthnysig iawn (a bydd [yn peri rhwystredigaeth] am
gyfnod hir)
yn berchennog (parch cywir)
ty a gwr, yn ferch deg iawn.
Nid anfynychach [y bu] imi ffoi
24 am hanner nos am honno,
rhag merch o'i phlas dan wydr glas,
nag yn y dydd (rwyf yn acrobat medrus)
a'r gwr caled â'r gair ffôl
28 dan guro'r llaw yn y llall
a rydd lef beunydd (rhwydd ei chwant)
a bloedd am ddwyn mam ei blant.
Gwr eiddil, am ei lef
32 i ddiawl aed, pam y mae ef yn llefain
(och hyd at Dduw, gwae ef, waedd di-baid)
mewn hudolaeth ar ferch?
Anifail hir ei lef llydan [a] haerllug,
36 llafur ffôl yw llyfr ei ffalsedd.
Yn llwfr ac yn rhyfedd y mae wedi
gweiddi am ferch fain fyw.
Dihuna'r Deau
40 drwy ei siarad, barcud merch [ydyw].
Nid dawnus, nid rhagorol,
nid teg gwrando (nid hardd)
gwr yn gweiddi (gorn gwaddod)
44 ar gân fel brân am ei brawd.
Un drwg â bloedd i beri diffyg cwsg
(gwr â genau ffug) am fenthyg ydoedd.
Pe prynwn (meddwl gwych perffaith)
48 wraig yn fy oes, rhyw gam llawn twyll,
(cnuchiwr dig [yw ef]) er cael awr o dawelwch
(byddai [hynny]'n rhaniad) mi a'i rhown iddo
gan [mewn modd] mor ddrwg (gwae tynged gweddw,
52 y gwr chwerw) y gwyr chwarae.
Dewis yr wyf mewn gair
Ddyddgu i'w charu, os ceir [hi].