Owdwl farwnad yr Llywelyn ap Gwilym uchod yr hwnn a las a chyllell yn
ressyn
1 Dyfed a somed am symyd mowredd
2 am eryr bro rydyd
3 doe wiwdymp yn dywedyd
4 hyddawn fu a heddiw yn fud
5 Kynn hynn Lywelyn olud tiriogaeth
6 tuy rragof nis kavyd
7 agwrdd udd y gerdd oeddud
8 agor i mi y gwr mud
9 Pryd glwys prudd a dwys prif dud praff awdur
10 proffwyda ir balch syth=drud
11 prif dda wawd praw ddwedud
12 prydydd ieithydd na fydd fud
13 Vynghainlyw difyw deifr helkud paham
14 byhwman deigr neud glud
15 vynghanllaw im gadawyud
16 fy nghar am aur fyngharw mud
21 Pendefig gwledig gwlad yd is dwfn
22 ys difai im dyskud
23 pob meistrolrwydd a wyddud
24 poenwyd fi er pan wyd fud
25 Rry ddwfn fy neigr nid rry difud llef
26 am fy llew kadarnddrud
27 nid tiboen nam attebud
28 nid hawdd ymadrawdd a mud
17 Gawr nef a llaw llef alltud yw honn
18 hynn oedd ddygyn nas klowud
19 gwae fi geli pob golud
20 gwyl fy nghyflwr am wr mud
29 Gwae fi fod elw glod ai glud
30 ni ballawdd heb allel dwedud
31 gwnn ofal tost gan ofud
32 wawr airieu mawr am wr mud
45 Gwae fi ddwyn ail Brwyn brenhinoedd lledryth
46 llywodraeth y bobloedd
47 lles tyrfa llios torfoedd
48 llawen gorawen gwyr oedd
33 Gwae fi krist keli kaled yn rryfig
34 pan rryfedd im kosbed
35 kamp oeddem oll in kolled
36 kwypo krair holl gampau kred
49 Gwae fi weled trwydded trwg
50 neuaddau milwr twr teg
51 annawn oes un yn yssig
52 ar llall do gwall yn duy gwag
37 Gwae fi krist heli kalonn doll yw /r/ fau
38 fyfur fu o ddygngoll
39 kwmpas eirf kampus arfoll
40 kwympo Nudd y kampau yn oll
41 Gwae fy fi fy rri rro darpar ar Dduw
42 ddwyn kadarnwalch kerddgar
43 nid rrydd gwyl neud rrwydd galar
44 nad rrydd ymgerydd am gar
53 Gwae /r/ nai a oerai a ery gweled
54 gwaelod kof am deffry
55 y llys vraith yn llaesu fry
56 ar llys=dyn yn arlloes duy
57 Llys gwin ag emys ddigamoedd gyllid
58 och golli ai gwnaethoedd
59 llys naf aur lles niferoedd
60 llyw lles be byw llys bawb oedd
77 Diareb yw hon drwy dir y mro
78 a laddo a leddir
79 dibenn o hynn a dybir
80 dibaid gwae a Duw boed gwir
93 A wnaeth argae a gwae a gwall ir Deau
94 a gaiff diwedd gwall
95 a wnelo drwg dreigl angall
96 ar llaw ef a ery /r/ llall
85 Nid diofal ffyrf dal ffer
86 y gelyn a wnel galar
87 a laddo ddyn ai loiw ddur
88 i luddias hoedl a leddir
89 Hoiwfryn flodeuyn diwyd a dderyw
90 yn ei ddewredd gadernyd
91 llwyr ir aeth kyngaeth kyngyd
92 hayarn a chof barn y byd
65 Gwrgan oedd Lywelyn gwir ganu prudd
66 kyn rroi pridd oi ddeutu
67 pwynt rryfel heb ymgelu
68 penn rraith ar Ddyfed faith fu
105 Lles bychan buan yw bod yn rryllfalch
106 ir hollfyd yn fyfyrdod
107 llew syberw llios wybod
108 llas ag arf glas gorf y glod
125 Gwaelfryn gwawl defyn gwely defawd
126 gwaith gwaeth bellach fyfyrdawd
127 gwae kedyrn gwag ei keudawd
128 gwegi /r/ gwyr gwedi gwawr gwawd
81 Llathr ddagrau yw /r/ mau modd chweg
82 Och allel a chyllell chwilerog
83 llawer och tost ar osteg
84 llathr aur dyrn lladd teyrn teg
129 Salw a thost Ior kostfaith
130 selerwin bydrddrin beirdddreth
131 kwmpas reddf kampus roddfaeth
132 kwympo i gyd kampau byd byth
109 Llew allawg farchawg Llywelyn ath laif
110 ith lys teg yn Emlyn
111 llai ywr dysg medd llawer dyn
112 llafr ith ol llyfr a thelyn
101 [228] Kyfiawder fu hwnn kyfa undeb kerdd
102 kerddwriaeth doethineb
103 kyweirdant pob kywirdeb
104 korf klod nid un wybod neb
61 Os marw fy ewythr ys mawr ryfedd yw
62 aur afia Gymru fawr
63 neud oeddwn ei nai diddawr
64 nad af yngwyllt Duw fyngwawr
121 Wylais lle gwelais lle gwely f'arglwydd
122 pand oedd f'owrglwyf hynny
123 gair atteb i gar ytty
124 gwr da doeth agor dy duy
97 Dall fydd os marw byd dyll gwyd gwedy
98 dwyn llygad oedd yn Lloegr a Chymry
99 dwg ith wledd nim gomeddy
100 dor gwyr da vreyr Duw fry
137 Irad a thost pawb a garo dadl
138 i Lan Dudoch heno
139 doethineb maith doeth yno
140 diwyd grair dan dywod gro
113 Och am Lywelyn dyn doeth a ddwedaf
114 och a fydd yw gyfoeth
115 och rwyddaf roddaf drannoeth
116 och beunydd ei ddydd a ddoeth
Dafydd ap Gwilym ai kant