1 Ochan fi drueni drum
2 heb oir na wybuum
3 garu cyn oedran gwra
4 hocrell fwyn ddiell fain dda
6 gynilgamp gu anwylgoeth
5 gywair o ddyn gywir ddoeth
7 mal vnwedd etifedd tir
8 gowyll-fwythusddyn gywir
13 yn gariad di anwadal
14 y lath aur, yn loew ei thal
9 yn gronferf yn ddi derfysc
10 yn gyflawn or dawn ar dysc
11 yn deg lan Indeg loew nwyf
12 Yn dir gwydd yn deric wyf
15 Mal y mae mawl arianddef
16 Dyddgu ar gwallt lliwddu lledf
17 Nid felly y mae Morfyudd
18 ond fal hyn foronyn rudd
21 Yn berchenoc barch vniawn
22 ty a gwr cyd-boed teg iawn
23 Nid anfynychach i'm ffo
24 am hanner nos am honno
25 Rhac dyn o'i phlas dann lasswydr
26 no lliw dydd llamhidydd hydr
27 Ar gwr dygn ar gair digall
28 dan daraw y llaw yn y llall
29 llef beunydd a rydd rwyddchwant
30 a bloedd am ddwyn mam ei blant
35 llwdn hirllef llydan haerlluc
36 llafur ffol yw llyfr y ffuc
37 llwfr a rhyfedd y gwneddyw
38 llefain am Riain fain vyw
39 Y deau ef a dyvn
40 dann ddywedyd barcud bun
33 Och gwae ef ddolef ddylyn
34 hyd ar dduw or hud ar ddyn
41 Nid dawnus nid du anardd
42 Nid teg ei weled nid hardd
43 Gwr yn gweiddi gorn gwadda[ ]
44 ar gân fel brân am ei brawd
45 Ys drwg o vn anhunfloedd
46 fin ffug wr o fenffig oedd
47 pe prynwn befr ddiddwn bwyll
48 wraig o'm hoedl ryw gem hydwy[ ]
49 Coeliwr dig er cael awr daw
50 rhan oedd mi ai rhown iddaw
51 Rhac dryced weddw dynged wa[ ]
52 Y gwr chwerw y gwyr chwara[ ]
53 Dewis yr wyf ar vngair
54 Dyddgu iw charu o chair
dd' ap Gwilym