â â â Breichiau Morfudd
1â â â Twf y dyn tyfiad Enid,
2â â â Â'r tefyll aur, a'm tyf llid;
3â â â Tâl moeledd, talm o alaw,
4â â â Tëyrnasaidd lariaidd law,
5â â â Dyn wyl dda ei dyniolaeth
6â â â A'i modd, gwell no neb ei maeth.
7â â â Ddwylaw mwnwgl dan ddeiloed
8â â â Ydd aeth i anghengaeth hoed,
9â â â Peth nid oeddwn gynefin,
10â â â A chael ymafael â'i min.
11â â â Gwanfardd addfwyndwf gwinfaeth
12â â â Oeddwn gynt iddi yn gaeth.
13â â â Amau bwyll, y mae bellach,
14â â â Dawn fu, a rhoi Duw yn fach,
15â â â Rhyw gwlm serch, cyd rhygelwyf,
16â â â Rhôm, od gwn, rhwymedig wyf.
17â â â Manodliw fraich mynudloyw
18â â â Morfudd, huan ddeurudd hoyw,
19â â â A'm daliawdd, bu hawdd bai hy,
20â â â Daldal ynghongl y deildy;
21â â â Daliad cwlm o gariad coeth,
22â â â Dau arddwrn dyn diweirddoeth.
23â â â Da fu hirwen dwf hwyrwar,
24â â â Daly i'm cylch dwylaw a'm câr.
25â â â Dogn oedd ym, o'm hylym hwyl,
26â â â Dewr goler serch dirgelwyl.
27â â â Llathr ieuo'r bardd, gem harddlun,
28â â â Llai no baich oedd befrfraich bun
29â â â Goris clust goreuwas clod,
30â â â Gorthorch, ni wnaf ei gwrthod,
31â â â Lliw'r calch, yn lle eiry cylchyn -
32â â â Llyna rodd da ar wddf dyn -
33â â â A roes bun, ac un a'i gwyr,
34â â â Am fwnwgl bardd, em feinwyr.
35â â â Hydwyll y'm rhwymodd hudawl;
36â â â Hoedl i'r fun hudolair fawl
37â â â A geidw ym, drefn erddrym draidd,
38â â â Fy mwythau yn famaethaidd.
39â â â Diofn, dilwfr, eofn dâl,
40â â â A du wyf a diofal,
41â â â A deufraich fy nyn difrad
42â â â I'm cylchyn ym medwlyn mad.
43â â â Nid serch i neb f'amherchi,
44â â â Delw haul, rhwng ei dwylaw hi.
45â â â Wedy cael ymafael mwy,
46â â â Wawr euraid - wi o'r aerwy! -
47â â â Teg oedd weled mewn rhedyn
48â â â Tegau dwf yn tagu dyn.
49â â â Meddw oeddwn, mau ddioddef,
50â â â Meddwaint rhiain groywfain gref.
51â â â Mynwyd fy myd rhag fy mâr,
52â â â Mynwyn y'm gwnaeth braich meinwar.
53â â â Mynwes gylchyniad mad maith,
54â â â Mynwair fuant ym unwaith.