Breichiau Morfudd
Mae ffurf corff y ferch sy'n debyg i Enid,
â'r cudynnau aur, yn peri traserch i mi;
talcen noeth, darn o lili,
4 llaw fonheddig a thyner,
merch wylaidd dda ei natur
a'i dull, mae'i magwraeth yn well nag un neb arall.
Fe aeth â'i dwylaw am wddf mewn cyfarfod dan y dail
8 gan achosi hiraeth anorfod,
peth nad oeddwn yn gyfarwydd ag ef,
a chafwyd mynd i'r afael â'i gwefusau.
Bardd gwan siapus ei gorff wedi'i fagu ar win
12 yn gaethwas iddi oeddwn i o'r blaen.
Syniad anhygoel, y mae bellach
(bu'n rhodd, a Duw'n dyst!)
ryw gwlwm o gariad (er fy mod yn ei guddio)
16 rhyngom, yn sicr, rwyf wedi fy rhwymo.
Braich foneddigaidd a disglair, liw'r eira mân
Morfudd (gruddiau hardd fel yr haul)
a'm daliodd (bu'n hawdd hyd yn oed os oedd yn feiddgar)
20 dalcen wrth dalcen yng nghongl y ty dail;
daliad cwlwm o gariad soffistigedig,
dau arddwrn merch ddiwair a chall.
Da fu'r un dal, deg â'r corff addfwyn a thirion
24 yn dal amdanaf ddwylo sy'n fy ngharu.
Roedd yn gyfran lawn i mi, yn sgil fy antur awchus,
coler wrol o gariad mewn cyfarfod dirgel.
Rhoi iau disglair ar y bardd, gem deg ei llun,
28 roedd braich loyw y ferch yn llai na baich
o dan glust gwasanaethwr gorau mawl,
torch fawr (ni wnaf ei gwrthod)
o liw'r calch, megis cylchyn o eira -
32 dyna anrheg dda ar wddf dyn -
a roddodd merch (ac mae un yn gwybod hynny'n iawn)
am wddf bardd, gem fain ac addfwyn.
Fe'm rhwymodd dewin yn dwyllodrus iawn;
36 [hir] oes i'r ferch a folir â geiriau hudolus
sy'n cadw i mi (cyrchiad hardd ei ddull)
fy mwythau fel mamaeth.
Diofn, dewr, hyderus fy wyneb,
40 a du ydwyf heb boeni am ddim,
tra bo dwy fraich fy nghariad ffyddlon
amdanaf mewn glyn bedw braf.
Ni fyddai'n beth caredig i neb fy sarhau
44 rhwng ei dwylo hi, yr un sy'n debyg i'r haul.
Ar ôl cael ymgofleidio mwy,
arglwyddes euraid - dyna gadwyn wych! -
hyfryd oedd gweld mewn rhedyn
48 un â chorff fel Tegau yn tagu dyn.
Roeddwn i'n feddw, dioddefaint i mi,
meddwdod merch fain, bêr, gref.
Llawenydd fy mywyd yn erbyn fy niflastod,
52 gwnaeth braich yr un fain a gwaraidd fi'n wyn fy ngwddf.
Cwmpasiad da, hir am fynwes,
buont yn goler i mi unwaith.