{I Forfydd}
1 Twf y dyn tyfiad Enid
2 tefyll aur mawr y tyf llid
3 tal moeledd talm o alaw
4 tehyrnesaidd lariaidd law
5 Dyn wyl dda ei dyniolaeth
6 Ai modd gwell no neb a maeth
7 ddwylaw mwnwgl dan ddeiloed
8 ydd aeth i anghenfaeth hoed
9 peth nid oeddwn gynefin
10 a chael ymafael ai min
11 Gwanfardd gweddeidd-dwf gwinfaeth
12 oeddwn gynt iddi yn gaeth
13 Amau bwyll y mae bellach
14 dawn fu a rhoi Duw'n fach
15 Rhyw gwlm o serch rhy gelwyf
16 Rhom od gwn rhwymedic wyf
17 manod-liw ddyn munud-loew
18 Morfudd huan ddeu-rudd hoew
19 Am daliawdd be hawdd bu hy
20 daldal yng-hanol deil-dy
21 Daliad cwlm o gariad coeth
22 dau arddwrn dyn ddiweir-ddoeth
23 da fu hirwen dwf hwyrwar
24 daly im cylch dwylaw am câr
25 Dogn oedd ym om hylym hwyl
26 dewr goler serch dirgelwyl
27 llathr ifor fardd dyn hardd-lun
28 llai no baich oedd befr-fraich bun
29 Goris clust goreu-was clod
30 Gorthorch ni wnaf ei gwrthod
31 lliw 'r calch vn-lliw eiry cylchyn
32 llyna rodd da ar wddw dyn
33 A roes bun ac vn ai gwyr
34 Am fwnwgl bardd em feinwyr
35 hydwyll nim rhwymodd hudawl
36 hoedl i'r fun hudolair fawl
37 A geidw ym drefn eurddrym draidd
38 fy mwythau yn famoethaidd
39 di ofn dilwfr eofn dal
40 A du wyf a di ofal
41 A deufraich fy nyn difrad
42 im cylchyn meddlyn a'i mad
43 Nid serch i neb f'amherchi
44 delw haul rhwng ei dwylaw hi
45 wedi cael ymafael mwy
46 wawr euraid wi or aerwy
47 Teg oedd weled mewn rhedyn
48 tegau dwf yn tagu dyn
49 meddw oeddym mau ddioddef
50 meddwaint rhiain groewgain gref
51 munyd fy myd rhac fy mar
52 mwyn im gwnaeth breichiau meinwar
53 mynwes gylchyniad mad maith
54 mynwaur fuant im vn-waith
dd' ap Gwily[ ]