Edited Text: 94 - Yr Euryches

Yr Euryches

Euryches y cae mangoed
O ryw bedwenfrig erioed,
Ennill ym fydd, goedwydd ged,
4O chawn elw, ei chyniled.
Er achub crefft eurychaeth
I efail o ddail ydd aeth
Ac ennill clod ac annerch
8Ac â'i llaw sawduriaw serch.
Â'i neddair, fy eurgrair fwyn,
Y nyddodd fedw yn addwyn;
A'm cain euryches ni'm cawdd,
12Em cenedl, a amcanawdd
Cyflunio cae o flaenion
Cadair o frig coed o'r fron:
Coedyn bach a rwym ceudawd,
16Crefft hysbys rhwng bys a bawd.
Canwell yw no chae ceinwefr
Cae o wallt pen bedwen befr.
Caeog wyf o frig gwyal,
20Caeau y Deau a dâl.
Cywir y ceidw ym hiroes,
Cywair wyf o'r cae a roes.

    Fy nghae bedw, da y'i cedwir,
24O'r coed a wnâi hoed yn hir.
Fy mudd yw, nis maddeuaf,
Fy mywyd ar hyd yr haf,
Fy mab, fy mrawd didlawdfoes,
28Fy medw rhwym; fy myd a'i rhoes.
Golygawd, grefft briawd brudd,
Gem irfedw oedd gae Morfudd.
Dellt yw fy mron, rylon rus,
32Dan gae bedw dyn gwybodus.
Gwaith cymen ar fedwen fad,
Gweddeiddio gwŷdd a wyddiad.
Gwell ei hamcan no Siannyn
36Eurych, treth fynych a fyn.
Gwŷdd meinion a gysonai;
Gwyn ei fyd y gwan a fâi—
Eurai fy llaw ar fy lles—
40Ar uchaf ei euryches.