| Yr Euryches | |
| Euryches y cae mangoed | |
| O ryw bedwenfrig erioed, | |
| Ennill ym fydd, goedwydd ged, | |
| 4 | O chawn elw, ei chyniled. |
| Er achub crefft eurychaeth | |
| I efail o ddail ydd aeth | |
| Ac ennill clod ac annerch | |
| 8 | Ac â'i llaw sawduriaw serch. |
| Â'i neddair, fy eurgrair fwyn, | |
| Y nyddodd fedw yn addwyn; | |
| A'm cain euryches ni'm cawdd, | |
| 12 | Em cenedl, a amcanawdd |
| Cyflunio cae o flaenion | |
| Cadair o frig coed o'r fron: | |
| Coedyn bach a rwym ceudawd, | |
| 16 | Crefft hysbys rhwng bys a bawd. |
| Canwell yw no chae ceinwefr | |
| Cae o wallt pen bedwen befr. | |
| Caeog wyf o frig gwyal, | |
| 20 | Caeau y Deau a dâl. |
| Cywir y ceidw ym hiroes, | |
| Cywair wyf o'r cae a roes. | |
| Fy nghae bedw, da y'i cedwir, | |
| 24 | O'r coed a wnâi hoed yn hir. |
| Fy mudd yw, nis maddeuaf, | |
| Fy mywyd ar hyd yr haf, | |
| Fy mab, fy mrawd didlawdfoes, | |
| 28 | Fy medw rhwym; fy myd a'i rhoes. |
| Golygawd, grefft briawd brudd, | |
| Gem irfedw oedd gae Morfudd. | |
| Dellt yw fy mron, rylon rus, | |
| 32 | Dan gae bedw dyn gwybodus. |
| Gwaith cymen ar fedwen fad, | |
| Gweddeiddio gwŷdd a wyddiad. | |
| Gwell ei hamcan no Siannyn | |
| 36 | Eurych, treth fynych a fyn. |
| Gwŷdd meinion a gysonai; | |
| Gwyn ei fyd y gwan a fâi— | |
| Eurai fy llaw ar fy lles— | |
| 40 | Ar uchaf ei euryches. |