Owdwl farwnad Llywelyn ap Gwilym o Ddyfed yr hwnn a las yn resynol a
chyllell: yr honn Owdwl sydd yn esgrifenedig or blaen yn y 153 ddolen ond
oherwydd bod hon yn rragori ag yn chwanegu mi ai hesgrifennais eilwaith
1 Dyvet a siomet symut i mawrair
2 am eryr bro /r/ hut
3 doe wiwdymp yn dywedut
4 hyddawn vur a heddiw yn fydvut
5 Kyn hyn Llywelyn olut tiriogaeth
6 ty ragor nis kaeut
7 agwrdd udd y gerdd oeddut
8 agor i mi y gwr mut
9 Pryd glwys prudd dadwys prif dut praff awdur
10 proffwydwr balch syth drut
11 prif dda wawd praw ddywedut
12 prydydd iaithydd na vydd vut
13 Yngkeinllyw gwynllyw deifr helgut baham
14 Bwhwman deigr neu glut
15 vygkanllaw im adawut
16 vygkar am aur fygkarw mut
17 Gawr nef a llawr llef alltut oedd honn
18 hyn oedd ddygn na chlywut
19 gwae vi Geli pob golut
20 gwyl vygkyflwr am wr mut
29 [231] Gwae fi vot elw klot ail klut ny ballawdd
30 eb allel dywedut
31 O gwnn ofal tost gan ovut
32 gawr eirau mawr am wr mut
21 Pendefig gwledig gwlat dut ystwfn
22 ysdivai im dyskut
23 pob maistrolrwydd a wyddut
24 poenet vi er pan wyt vut
25 Dwfn dialar nid divut fy llef
26 am llyw kadarnddrut
27 nit diboen nat attebut
28 nit hawdd ymadrawdd a mut
33 Gwae vi krist keli kalet om ryfi
34 a rryfedd im kospet
35 kwymp oeddem oll kyn kollet
36 kwympaw krair oll kampau kret
37 Gwae fi krist keli kalonn doll yw vau
38 wyf vyvi am ddigngoll
39 kampus eirf kwmpas arvoll
40 kwympaw yw y kampau oll
41 Gwae vi vy rri rroi ith ddarpar Duw
42 dwyn kadarnwalch kerddgar
43 nyt rrodd gwyl neut rrudd galar
44 nad rrydd ymgerydd am gar
45 Gwae vi ddwyn ail brwyn greiniawl gyhoedd
46 ledrith lywodraeth y bobloedd
47 lliaws taervalch lles torvoedd
48 llawen gwawr awen gwyr oedd
49 Gwae vi welet trwyddet trwc
50 neuaddeu milwr twr tec
51 annawn oes un yn yssig
52 ar llall do gwall yn dy gwac
53 Gwae nai a oerai a ery gwelet
54 gwaelawt kof am dyffy
55 y llys vraith yn llaesy vry
56 ar llystyn yn arloesty
57 Llys gwin ag emys digamoed gillit
58 och golli an gwmaddoedd
59 llys naf aur lles niferoedd
60 llyw lles pai byw llys pawb oedd
61 Os marw vywythr ys mawr o ryfedd
62 aur avia kymry lawr
63 edwyf o nei ai diddawr
64 nat af yggwyllt Deo vygwawr
69 Gwr nid gwas a las o loes archoll dur
70 adiriet vu /r/ dygngoll
71 []
72 gair oet am y gorau oll
73 Pwnk truan oerwan am eurwas yw hyn
74 honni mawr alanas
75 keifn arddelw kyfan urddas
76 kyrd a glyw kwyn kyn llas
77 Dihareb yw honn divyrir y'mro
78 a laddo a leddir
79 diboen vo hwnn a dybir
80 diball a Deo gwiw boet gwir
81 Llithr dagrau nyt mau modd chweg och allel
82 a chyllell Valereg
83 llawer och tost ar osteg
84 llathr erdyrn lladd teyrn teg
85 Nid diofal ffyrf dal ffer
86 y gelyn a wnel y galar
87 a laddo ddyn ae loywddur
88 i luddias hoedl a leddir
89 Heilbryn vlodeuyn diwyt a dderyw
90 da vryd di ymoglyt
91 llwyr i daeth gwingaeth gwygyt
92 haearn a chof a barn byt
93 A wnel argae gwae a gwall
94 ir dehau a gaiff dial cuall
95 a wnel drwg o dreigl angall
96 a llaw arroet y llall
97 Dall vydd byt dull gwyt gwedy dwyn llygat
98 oedd yn Lloegr a Chymry
99 dwg ith wledd nim gomeddy
100 dor gwyr da vreyr dro vry
101 Kyfiownder fu ef kyfundeb kyrdd aur
102 kerddwriaeth doethineb
103 kyweirdant pob kywirdeb
104 korf klod nid un wybot neb
105 Lles bychan buan yw bot yn rrullvalch
106 ar hollvyt val ffuryf rrot
107 llew syberw lliaws wybot
108 llas ag arf glas gorf y glot
109 Llew olwg varchog Llywelyn oth las
110 ith lys deg yn Emlyn
111 llai yw /r/ dysk medd llawer dyn
112 llafur ith ol llyfr a thelyn
113 Och dwyn Llewelyn doeth a dodaf
114 och a dyt y gyvoeth
115 och rydd a roddaf drannoeth
116 och beunydd ei ddydd a ddoeth
117 Och och y ddol goch daly gwyl barchus
118 am dy berchen anwyl
119 och wedy /r/ ddwy och ddiwyl
120 och panit och pwy nit wyl
121 Wylais lle gwelais gwely v'arglwydd
122 bond oedd vawr gloi hynny
123 geir atteb wyf gar ytty
124 y gwr doeth agor dy duy
125 Gwaelvryn gwawl tefyrn gweli tafawt gwaith
126 gwaeth bellach myfyrdawt
127 gwaeg kadarn gwag yw keudawt
128 gwaeg kry gis yr gwedy gwawr gwawt
129 [232] Salw a thost am Ior kostrith
130 selerwin wyt drin veirdreth
131 kampus rodd kwmpas roddfath
132 kwympiaw gyt kampiae byt byth
133 Kaeth edling fflowr dling dlis oreu raith
134 waret klochdy Paris
135 kembro glew am gedewis
136 kymryt un kymry neut is
137 Truan ag eirian a garo dadl
138 wyt lann Dudoch heno
139 doethineb nid aeth yno
140 diwyt grair dan dywot gro
Dafydd ap Gwilym ai kant