Yr Euryches
Euryches y cae o frigau
o fath [sydd ar] frig y fedwen erioed,
bydd ei chrefftusrwydd [o] les imi (anrheg coedwig)
4 pe cawn elw.
Er mwyn cofleidio crefft eurychaeth
yr aeth i efail o ddail
ac ennill clod ac enwogrwydd
8 ac â'i llaw sodro serch.
Â'i llaw, fy nhrysor euraid mwyn,
y nyddodd fedw yn lluniaidd;
a'm heuryches hardd nad yw'n fy ngwylltio
12 (gem cenedl) a fwriadodd
lunio cae o flaenion
clwstwr o frig coed o'r fron:
coedyn bach sy'n rhwymo mynwes,
16 crefft amlwg rhwng bys a bawd.
Can gwaith yn well na chae o wefr gain yw
cae o wallt pen bedwen ddisglair.
Yn gwisgo cae yr wyf o frig[au] gwial,
20 mae'n werth [holl] gaeau y Deheubarth.
Yn gywir y ceidw oes hir imi,
rwyf yn gyflawn o'r cae a roes.
Fy nghae bedw (fe'i cedwir yn dda)
24 o'r coed a wnâi hiraeth hir.
Fy lles yw, nid ymadawaf ag ef,
fy mywyd ar hyd yr haf,
fy mab, fy mrawd â moesau dibrin,
28 fy medw rhwymedig; fy anwylyd a'i rhoes.
Golwg (crefft briodol ddoeth)
gem o fedw ir oedd [gan] gae Morfudd.
Chwilfriw yw fy mron (cyffro cynhyrfus iawn)
32 o dan gae bedw merch grefftus.
Gwaith taclus ar fedwen dda,
gwyddai sut i harddu coed.
Gwell yw ei bwriad nag [eiddo] Siannyn
36 Eurych; mae [hwnnw]'n mynnu tâl cyson.
Brigau meinion a drefnai [hi];
gwyn ei fyd y gwr gwan a fo
(eurai fy llaw er fy lles)
40 ar ben ei euryches.