Yr Euryches
   Euryches y cae o frigau 
   o fath [sydd ar] frig y fedwen erioed, 
   bydd ei chrefftusrwydd [o] les imi (anrheg coedwig) 
4   pe cawn elw. 
   Er mwyn cofleidio crefft eurychaeth 
   yr aeth i efail o ddail 
   ac ennill clod ac enwogrwydd 
8   ac â'i llaw sodro serch. 
   Â'i llaw, fy nhrysor euraid mwyn, 
   y nyddodd fedw yn lluniaidd; 
   a'm heuryches hardd nad yw'n fy ngwylltio 
12   (gem cenedl) a fwriadodd 
   lunio cae o flaenion 
   clwstwr o frig coed o'r fron: 
   coedyn bach sy'n rhwymo mynwes, 
16   crefft amlwg rhwng bys a bawd. 
   Can gwaith yn well na chae o wefr gain yw 
   cae o wallt pen bedwen ddisglair. 
   Yn gwisgo cae yr wyf o frig[au] gwial, 
20   mae'n werth [holl] gaeau y Deheubarth. 
   Yn gywir y ceidw oes hir imi, 
   rwyf yn gyflawn o'r cae a roes. 
   Fy nghae bedw (fe'i cedwir yn dda) 
24   o'r coed a wnâi hiraeth hir. 
   Fy lles yw, nid ymadawaf ag ef, 
   fy mywyd ar hyd yr haf, 
   fy mab, fy mrawd â moesau dibrin, 
28   fy medw rhwymedig; fy anwylyd a'i rhoes. 
   Golwg (crefft briodol ddoeth) 
   gem o fedw ir oedd [gan] gae Morfudd. 
   Chwilfriw yw fy mron (cyffro cynhyrfus iawn) 
32   o dan gae bedw merch grefftus. 
   Gwaith taclus ar fedwen dda, 
   gwyddai sut i harddu coed. 
   Gwell yw ei bwriad nag [eiddo] Siannyn 
36   Eurych; mae [hwnnw]'n mynnu tâl cyson. 
   Brigau meinion a drefnai [hi]; 
   gwyn ei fyd y gwr gwan a fo 
   (eurai fy llaw er fy lles) 
40   ar ben ei euryches.