I'r Cae Bedw a ddanfonasei Morfydd.
1 Euryches y cae man-goed
2 o ryw bedwen-frig er ioed
3 Ynnill i'm fydd goed-wydd gêd
4 o chawn elw o'i chynniled
5 Er achub crefft eurychaeth
6 i efail o ddail ydd aeth
7 Ac ynnill clod ac annerch
8 Ac a'i llaw soduriaw serch
9 A'i neddair f'anwyl-grair fwyn
10 y nyddodd fedw anaddwyn
11 A'm cain euryches ni'm cawdd
12 Em cenedl ai hamcanawdd
13 Cyflunio cae o flaenion
14 Cadr ei fraint o'r coed o'r fronn
15 Coedyn bach o rwym ceudawd
16 Crefft hysbys rhwng bys a bawd
19 Caeawg wyf o frig gwyal
20 Caeau y deau a dâl.
17 [218v] Can-well yw no chae ceinwefr
18 Cae o wallt penn bedwen befr
23 Am cae bedw fe a'i cedwir
24 A'm coed a wnai hoed yn hîr
25 Y mudd yw nis maddeuwyaf
26 y mywyd ar hyd yr haf
27 fy mab fy mrawd di dlawd-foes
28 fy medw rhwym fy myd a'i rhoes
31 Da yw fy mron rylonn rus
32 Dan gae bedw dyn gwybodus.
29 Golygawdd grefft briawd brudd
30 gem ir-fedw oedd gae Morfudd
33 Gwaith cymmen o'r fedwen fad
34 gweddeiddio gwydd a wyddiad
35 Gwell ei hamcan no Sianynn
36 Eurych treth fynych a fynn
37 Gwydd meinion a gyssonai
38 gwyn ei fyd y gwan a fai
39 Eurai fy llaw er fy llês
40 ar vcha fy euryches.
dd ap Gwilym.