â â â Chwarae Cnau i'm Llaw
1â â â Salm i'm cof o lyfr Ofydd;
2â â â Serchog anniferiog fydd,
3â â â Heb gael cydymddaith dan llaw
4â â â I addef pob peth iddaw.
5â â â Mae un fal y damunwyf,
6â â â Brawd-ddyn ym o brydydd nwyf,
7â â â Cymhorthiad i'm cariad caeth,
8â â â Cynghorwr cangau hiraeth.
9â â â Ni bu, ddynan fechan fach,
10â â â Os mul hi, ysmalhaach,
11â â â Ni wna nemor o dwyllfreg,
12â â â No nyni'n dau, fy nyn deg.
13â â â Ac yntau a ddechreuawdd
14â â â Cynhyrchiad sain cariad cawdd.
15â â â Gwarae gau, gwyddym paham,
16â â â Er Eigr bryd a orugam.
17â â â 'Cnau i'm llaw ddeau ddiwg.'
18â â â 'Ym y dôn'; dyn mwyn a'u dwg.'
19â â â 'Pys irgyll rhydd, gwydd
gweilchwynt,
20â â â Pam y mae tau? Orddgnau ynt.'
21â â â 'Eu danfon ym, rym rwymbleth.'
22â â â 'Pwy yw?' heb ef, 'Er pa beth?
23â â â Edrych, er na laesych les,
24â â â Ai dyn fwyn a'u danfones.'
25â â â 'Meinir unbryd â manwawn,
26â â â Morfudd deg, mawr fydd ei dawn.'
27â â â 'A'th gâr di y dyn beirddglwyf?'
28â â â 'Câr, od gwn; caredig wyf.
29â â â O'm câr, gad yna, em cant,
30â â â Amnifer am y nwyfiant.'
31â â â Dugum i'r cnau, golau goel,
32â â â Doniog, myn Duw a Deinioel.
33â â â Danfones y dyn feinael
34â â â Ym hyn, weldyna em hael,
35â â â Am eurgerdd ddiymeirgoll,
36â â â Hoen eiry gaen, heiniar o goll.
37â â â Esgynwas wyf ysgeinoed,
38â â â Os gwir coel, ysgwïer coed.
39â â â Os celwydd, crefydd ni'm cred,
40â â â Os coel gwir, ys cael gwared,
41â â â Oed mewn irgoed, mwyn argoel,
42â â â A fydd, onid celwydd coel.
43â â â Fflacedau a phlu coedydd
44â â â I gyd, gweddaidd amyd gwydd,
45â â â Pefr fallasg tew eu cnewyll,
46â â â Penglymau cangau cyll,
47â â â Pennau bysedd pan bwysynt
48â â â Trwy fenig y goedwig gynt.
49â â â Nid anannwyl dwyn annerch
50â â â O fotymau, siamplau serch.
51â â â Nis tyr min er glythineb,
52â â â Ysgolan wyf, nis gwyl neb.
53â â â Ni thorrir, wir warafun,
54â â â Â charreg befr anrheg bun.
55â â â Minnau fy hun o'm lluniaeth
56â â â O gnau, y Mab Rhad a'u gwnaeth,
57â â â I'w glwysbryd, cyn lludw glasbridd,
58â â â A dalaf bwyth ffrwyth y ffridd.