Chwarae Cnau i'm Llaw
Mae yn fy nghof salm o lyfr Ovid;
bydd cariadlanc yn amddifad o ystryw
heb gael cyfaill gydag ef
4 i gyfaddef popeth iddo.
Mae un fel y dymunwn iddo fod,
ffrind mynwesol i mi sy'n fardd serch,
cynorthwyydd yn fy nghariad caethiwus,
8 cynghorwr pyliau o hiraeth.
Ni bu (merch fach annwyl,
os yw hi'n ddiniwed) neb mwy digywilydd
(ni wna hi unrhyw fath o ystryw)
12 na ni'n dau (fy merch hardd).
Ac yntau a ddechreuodd
y gwaith o gynhyrchu swn cariad poenus.
Chwarae ffug a wnaethom,
16 gwyddem paham, er mwyn yr un â golwg fel Eigr.
'Mae cnau yn fy llaw dde dirion.'
'I mi y dônt; dyn bonheddig fydd yn mynd â nhw.'
'Pys cyll gwyrdd rhydd, coed gwynt yr hebogiaid,
20 pam y maent yn perthyn i ti? Maent yn gnau bras.'
'Fe'u danfonwyd i mi, nerth pleth dynn.'
'Pwy ydyw?' meddai ef, 'Er mwyn beth?
Edrycha, fel na bo i ti leihau lles,
24 ai merch fonheddig a'u danfonodd.'
'Merch dal a main yr un golwg â gwawn mân,
Morfudd hardd, mawr fydd ei gwobr.'
'A ydyw'r ferch sy'n clwyfo beirdd yn dy garu?'
28 'Ydyw, yn wir; anwylyd wyf.
Os yw'n fy ngharu, gad yna (gem cant o bobl)
nifer anwastad oherwydd yr angerdd.'
Cymerais i'r cnau, arwydd golau,
32 buddiol, myn Duw a Deinioel.
Danfonodd y ferch fain ei haeliau
hyn i mi, dyna em hael,
am gerdd ddisglair heb air gwallus,
36 lliw haenen o eira, cnwd o gollen.
Rwyf yn wastrawd oed serch uchel,
gwas marchog y goedwig, os gwir yw'r arwydd.
Os yw'n gelwydd, ni fydd gwyr o grefydd yn fy nghredu,
40 os yw'n arwydd gwir, un sy'n dod ag achubiaeth,
bydd oed serch yn y goedwig ir,
addewid hyfryd, onid yw'r arwydd yn gelwydd.
Tuswau a phlu coedwig
44 gyda'i gilydd, cnwd prydferth y coed,
cibau disglair â chnewyllion tew,
boglynnau canghennau cyll,
pennau bysedd pan fyddent yn ymwthio
48 trwy fenig y goedwig gynt.
Nid anhyfryd yw cario cyfarchiad
o fotymau, arwyddion cariad.
Ni fydd ceg yn eu torri oherwydd trachwant,
52 Ysgolan wyf i, ni chaiff neb eu gweld.
Ni thorrir anrheg ddisglair y ferch
â charreg, gwaharddiad dilys.
Fe roddaf innau fy hun o'm cyflenwad
56 o gnau (Iesu Grist a'u gwnaeth)
ad-daliad am ffrwyth y goedwig
i'r ferch hardd ei hwyneb, cyn [iddynt fod yn] llwch yn y
ddaear.