Y cyntaf: Cnau i'm llaw
(h.y. mae gennyf gnau yn fy llaw).
Yr ail: I mi y dônt.
Y cyntaf: Pam?
Yr ail: Oherwydd eu danfon
i mi.
Y cyntaf: Gan bwy?
Yr ail: Hwn-a-hwn, neu
hon-a-hon (enw'r cariad).
Y cyntaf: A yw hi (neu ef)
yn dy garu?
Yr ail: Os yw'n fy ngharu,
gad yna amnifer o gnau (sef nifer anwastad).
Yr ymadrodd allweddol sy'n digwydd yn y tri chywydd yw 'gad yna
amnifer'. Mae'r ffaith bod naw o gnau yn llaw'r Gwr Eiddig yn brawf bod
Iolo'n caru ei wraig, ac mae'r ffaith bod saith yn llaw'r ferch yn brawf ei bod
hithau'n caru Ieuan. Ni ddywedir yma faint yn union o gnau sydd yn llaw'r
cyfaill, ond mae'n amlwg bod yr argoel yn ffafriol, gan fod Dafydd yn mynd
ymlaen i ddyfalu'r cnau'n ganmoliaethus. Serch hynny, fe erys peth ansicrwydd
ynghylch y darlleniad amnifer yn y cywydd hwn, gan mai
cyfnifer yw'r darlleniad yn fersiwn y Vetustus (gw.
nodyn 30 isod). Os oedd yr ail chwaraewr i fod i ddyfalu pa un ai gwastad neu
anwastad oedd nifer y cnau, yna mae'r ddau ddarlleniad yn ddichonadwy, fel y
dadleuodd D. Machreth Ellis. A hyd yn oed os nifer anwastad oedd yr unig argoel
ffafriol, fel y tybiai Parry (GDG1 485-6;
GDG2 557), gallai'r amrywiaeth rhwng y ddau
ddarlleniad fod yn arwyddocaol o ystyried ansicrwydd y bardd a ydyw'r coel yn
wir neu'n gelwydd (ll. 38-42). Sylwer hefyd ar yr ymadrodd 'gwarae gau' yn
ll. 15 a'r pwylais sydd ar ddichell ac ysmaldod yn y paragraff cyntaf. Mae'n
amlwg y byddai cyfle gan y sawl a ddaliai'r cnau i sicrhau canlyniad ffafriol
i'r chwarae, ac efallai fod hynny'n rheswm arall am yr ansicrwydd ynghylch yr
argoel. Fodd bynnag, gorffennir ar nodyn cadarnhaol iawn, gan chwarae ar
symbolaeth rywiol y cnau (am enghrau o'r fath symbolaeth yn y canu rhydd gw.
DGIA 180-2). Cynghanedd: sain 20 ll. (35%), croes 14 ll. (24%), traws 14 ll. (24%),
llusg 6 ll. (10%), braidd gyffwrdd 1 ll. (gw. nodyn 27), digynghanedd 3 ll.
(ond gw. nodyn 15). Ceir dau fersiwn sylfaenol o'r cywydd hwn, y naill yn ddeheuol yn Ll 6,
a'r llall yn ogleddol mewn llsgrau cysylltiedig â'r Vetustus. Er na cheir
copi yn rhan gyntaf Pen 49 nac yn llsgrau Llywelyn Siôn, mae'n debyg mai
Llyfr Wiliam Mathew oedd ffynhonnell testun Ll 6 gan ei fod ymhlith cerddi
eraill o'r ffynhonnell honno. Mae nifer o ddarlleniadau da yn Ll 6, ond y mae
hefyd rhai carbwl, ac ni ellir cymryd ei fod yn gopi ffyddlon o LlWM. Yn
ogystal â'r tri chopi uniongyrchol o'r Vetustus (Pen 49, H 26 a Ll 120),
ceir testun tebyg, ond gyda rhai gwahaniaethau arwyddocaol, yn G 4 (a oedd yn
ffynhonnell yn ei thro i M 212). Y pwysicaf o'r gwahaniaethau yw'r cwpled
47-8, nas ceir yn Pen 49, H 26 na Ll 6. (Gw. isod ar ddilysrwydd y
cwpled.) Ac yn ddiddorol iawn mae rhai o ddarlleniadau arbennig G 4, gan
gynnwys y cwpled hwnnw, i'w cael yn Ll 120. Fe ymddengys fod Jaspar Griffyth
wedi cymharu testun y Vetustus â ffynonellau eraill, ac efallai fod G 4
yn un ohonynt (ni fyddai hynny yn syndod gan fod G 3 yn llaw JG). H 26 oedd
ffynhonnell Bl e 1, fel y prawf y darlleniadau unigryw
vchan iach yn 9 a lysych yn 23. 1. i'm cof darlleniad G 4 a Ll 120. Os
dilynir llsgrau eraill y Vetustus, fel y gwnaed yn GDG, rhaid colli'r rhagenw
meddiannol yn gyfan gwbl, yw 'nghof. (Mae'r llinell yn
llwgr iawn yn Ll 6: Salw yw vynghof am lyfyr.) Efallai
mai atgof yw hwnnw am linell gyntaf cywydd Ieuan ap Rhydderch ar yr un testun,
Da yw 'nghof am lyfr Ofydd (GIRh 2.1) Brawddeg enwol
sydd yma, ond gellid diwygio i Salm sy i'm cof. llyfr Ofydd Cymh. 72.20 a
llyfr cariad 105.45, a gw. 34.29n. Ceir nifer o enghrau
eraill o'r ymadrodd hwn yng nghywyddau'r cyfnod, gw. GSRh 11.55, 'Salm o hen
gof llyfr Ofydd' (llinell debyg iawn i hon, mewn cywydd gofyn telyn gan Ruffudd
Fychan), GIRh 2.1 (gw. nodyn 1 uchod), IGE 158.7, BDG X.25, CLXIII.17, CXCIX.4,
CSTB XVII.45. Os oes llyfr penodol mewn golwg yn rhai o'r enghrau hyn, yna
mae'n debyg mai'r Ars Amatoria gan Ovid yw hwnnw. Ond
fel y dengys teitl un o'r testunau o gyfieithiad Cymraeg o Bestiaire d'Amour Richart de Fournival, 'Llyma lyfr a elwir
Llyfr Ovydd' (Thomas, 1988, 11), gallai 'llyfr Ofydd' olygu unrhyw waith
awdurdodol yn ymwneud â serch yn nhraddodiad Ovid. Gan fod yr
Ars Amatoria yn cynghori'r carwr i beidio ag ymddiried
i gyfaill, mae'n debycach mai'r Roman de la Rose oedd y
gwaith awdurdodol mewn golwg yma. Mae Amis (cyfaill) yn
ffigwr amlwg sy'n cynorthwyo'r carwr yn y Roman, gw. y
llinellau a ddyfynnir yn DGIA 216. 2. Fe ymddengys fod y ll. hon wedi'i hanghofio bron yn llwyr
yn nhraddodiad y Vetustus (gan gynnwys G 4), lle ceir: Son
om serch am ferch a fydd. Ond mae Ll 120 yn cytuno â Ll 6. Dyma
enghraifft sy'n dangos bod gan Jaspar Griffyth ffynonellau amgenach na'r
Vetustus (sef Ll 6 ei hun efallai, neu gopi arall o LlWM). anniferiog Hon yw'r unig enghraifft o'r
gair (GPC2 333), ond mae diferiog yn ddigon hysbys â'r ystyron 'cyfrwys,
dichellgar, ystrywgar; ffyrnig' gw. GPC 980, B i (1921), 18-21, a chymh.
89.30. Yr ergyd yw na all y carwr gyflawni unrhyw ystrywiau cyfrwys heb gymorth
cyfaill. 4. pob peth Efallai fod bwlch yn y
Vetustus yma, oherwydd fe geir pob dim yn Pen 49, a
f'amcan yn Ll 120. Ond y tro hwn mae H 26 yn cytuno
â G 4. Mae'r cwpled yn eisiau yn Ll 6. 6. Pen 49 yw'r unig un o lsgrau'r Vetustus sy'n rhoi'r ll.
fel hyn, ond fe geir rhywfaint o gefnogaeth iddo yn narlleniad carbwl Ll 6,
broywddyn ym ai brddinwyf. O ran synnwyr gellid dilyn G
4 (a H 26), Brawdyn ym i brydu nwyf, ond hwn yw'r
darlleniad anos. Awgryma Edwards (DGIA 215) mai Madog Benfras oedd y prydydd
dan sylw. 8. cangau Un o ystyron
cainc oedd 'ffit, pwl, plwc, chwiw (o salwch, ayb.)',
gw. GPC 390. Ond mae'r ystyr 'cân' yn bosibl yma (cymh. 'Y Gainc' rhif
91), a hefyd 'amryfal fathau' (HGDG). 11. Y brif frawddeg yma yw 'Ni bu . . . ysmalhaach . . . no
nyni'n dau', a chymerir bod y llinell hon yn cyfeirio at y ferch gan ddilyn 'os
mul hi'. Ond nid annichon mai'r cyfaill a olygir. 14. cynhyrchiad Dosberthir yr
enghraifft hon dan cynhyrchiad 1 ('y weithred o gynhyrchu') yn GPC 789, ond mae
cynhyrchiad2
('cynhyrchydd') yn bosibl hefyd. 15. Cymerir mai llinell ddigynghanedd yw hon, ond os gellir
derbyn odl rhwng -ae ac -au
(cymh. 43.4), yna mae modd ei dadansoddi fel cynghanedd sain bengoll. 18. dyn mwyn Hwn yw darlleniad Ll 6;
cymerir mai ymgais i gael gwared ag n berfeddgoll sy'n
cyfrif am a mi fersiwn y Vetustus. 20. Nid oes cefnogaeth yn y llsgrau i ddarlleniad GDG,
maent dau. 22. Dilynwyd Ll 6 yma, yn hytrach na fersiwn y Vetustus,
O bwy ... o ba beth. 23. H 26 yw'r unig un o blith prif lsgrau'r Vetustus sy'n
darllen lysych (GDG), ac mae presenoldeb yr un
darlleniad yn Bl e 1 yn un arwydd (ymhlith nifer) fod y testun hwnnw yn gopi o
H 26. 27. Fe geir cynghanedd braidd gyffwrdd rhwng
di a dyn, ond mae'n wan iawn ac
fe ddichon mai fel llinell ddigynghanedd y bwriadwyd hon. 30. amnifer Dilynwyd Ll 6 yma, fel y
gwnaed yn GDG, ond sylwer mai Cyfnifer cof a nwyfiant a
geir yn fersiwn y Vetustus. O ran cymeriad o fewn y cwpled mae
amnifer yn rhoi cymeriad cynganeddol, ond mae
cyfnifer yn rhoi cyfatebiaeth dderbyniol, fel yn y
cwpled blaenorol. Ar sail y cyfeiriadau yng nghywyddau cyfatebol Iolo Goch (GIG
XXVI.18) ac Ieuan ap Rhydderch (GIRh 2.18) cymerodd Parry fod
amnifer (nifer anwastad) yn brawf bod y sawl a anfonodd
y cnau yn caru'r sawl sy'n eu derbyn, ac felly fod darlleniad Ll 6 yn gywir.
Ond dadleuodd D. Machreth Ellis yn LlC 5 (1958-9), 187-90, fod yn
rhaid dyfalu pa un ai gwastad neu anwastad oedd nifer y cnau, ac felly fod
cyfnifer yn ddarlleniad posibl. Ni dderbyniodd Parry ei
ddadl (gw. GDG2 557), yn bennaf am fod rhifau
anwastad yn cael eu hystyried yn argoel ffodus yn draddodiadol (gw. V. F.
Hopper, Medieval Number Symbolism (New York, 1938, ail
arg. 1969), 101). Ond sylwer ar y chwarae o sir Gaerfyrddin a ddefnyddiai goden
bys i ddyfalu a oedd cariad yn ffyddlon, gan gymryd nifer wastad o bys yn y
goden yn arwydd ffafriol, gw. Catrin Stevens, Arferion
Caru (Llandysul, 1977), 72. Gan nad oes dim yng ngweddill y gerdd sy'n
cadarnhau beth oedd nifer y cnau (yn wahanol i'r ddau gywydd arall), a bod
ansicrwydd ai gwir ynteu celwydd oedd y coel, tybed a oedd yr amrywiaeth rhwng
y ddau ddarlleniad yn amwysedd hanfodol (neu o leiaf botensial) yn y gerdd
wreiddiol? Efallai i'r bardd adrodd y ddwy linell mewn gwahanol berfformiadau.
31-4. Dyma drefn y ddau gwpled yn Ll 6; ni cheir yr ail
yn y llsgrau eraill, felly mae'n anodd gweld pam y newidiwyd eu trefn yn GDG.
32. doniog Mae darlleniad GDG,
dawnus, yn seiliedig ar Ll 6, downwn (wedi'i gywiro'n ddiweddarach i downws), ac mae'n gyfystyr â'r testun. Deinioel Awgryma'r cyd-destun mai
Daniel Broffwyd yw hwn, gwr a oedd yn enwog yn yr Oesoedd Canol am ei
waith yn dehongli arwyddion a rhag-weld y dyfodol. Gwrthgyferbynner 127.6 a
128.5 lle cyfeirir at Ddeinioel ap Dunawd, nawddsant Eglwys Gadeiriol Bangor.
Am enghrau eraill o'r ffurf hon gw. G 296. 33. y dyn feinael enghr. o anghysondeb
o ran treiglo'r enw a'r ansoddair. Efallai y dylid darllen Anfones y ddyn feinael. 35. diymeirgoll Dyma'r unig enghraifft
o'r gair cyfansawdd hwn, ac ar sail yr elfen ymeirio,
'cecru . . . ymryson' (gw. GPC 3774), cynigir 'heb ymryson geiriau,
cytûn, heddychlon' yn GPC 1066. Ond nid yw'r ystyron hynny'n gweddu'n dda
i'r elfen olaf, coll. Cymerir, felly, fod hwn yn
ddisgrifiad canmoliaethus o gelfyddyd y gerdd, 'heb air gwallus'. 36. Yn Ll 6 yn unig y ceir y cwpled hwn, ac ni ellir derbyn
ei darlleniad fel y saif: hoen er y kaen heinar koll.
Derbyniwyd yn betrus ddiwygiad Parry, sef ychwanegu'r arddodiad
o a threiglo gaen a
goll. Cymh. hoen ewyngaen
144.5 (= GDG 101.5), ond ar y llaw arall gwrthgyferbynner heiniar cur, GDG 102.7. 37. esgynwas Mae ystyr y gair
cyfansawdd hwn yn ansicr. Gellid ei ddeall yn ddisgrifiad o hwyliau'r bardd,
fel y gwnaeth Gruffydd yn HGDG ('llanc ifanc ar godiad'), a Gwyn Thomas ('I am
a lad uplifted'). Ond mae'r ddelwedd ysgwïer (gwas
marchog) yn y llinell nesaf yn awgrymu efallai fod ystyr fwy penodol i'r gair
hwn, a bod esgyn yn golygu 'mynd ar gefn march' (gw.
GPC 1247, a chymh. esgynfaen). Anodd barnu'n bendant
oherwydd ansicrwydd ysgeinoed yn ail hanner y llinell,
ond os cyfarfod cariadon yw ail elfen hwnnw, yna gellir deall
esgynwas yn drosiadol am un sy'n hwyluso'r fath
gyfarfod trwy dderbyn y cnau. ysgeinoed Dilynwyd H 26 wrth drin hwn
fel un gair. Braidd yn wan yw darlleniad Pen 49 a dderbyniwyd yn GDG,
ys ceinoed. Gair cyfansawdd yw asgenoed G 4 a Ll 120 hefyd. 'Gwasgaru, taenu' yw prif
ystyr ysgeinio, yn ôl GPC 3834, ond gw.
trafodaeth J. Lloyd-Jones, B iv (1927-9), 146-7, lle awgrymir yr
ystyron 'llamu, ysboncio; esgyn, cynyddu' i'r ferf, ac 'aruchel' i
ysgain fel ansoddair. Ansoddair sydd gan Gasnodyn, GC
2.138, ac yn Gwassanaeth Meir (gw. GM 46). A chymryd
mai 'cyfarfod cariadon' yw oed yma, byddai 'oed uchel'
yn cyd-fynd yn dda ag esgynwas. 39. celwydd Ceir cywydd yn holl lsgrau'r Vetustus, ond mae'r cwpled yn
eisiau yn Ll 6. Diwygiwyd er mwyn y synnwyr, ac yn enwedig y cyferbyniad
â'r llinell ddilynol, a sylwer bod hyn yn cryfhau'r cymeriad hefyd. ni'm Ni cheir darlleniad GDG,
ni'n, yn yr un o'r llsgrau. 45.Dilynwyd Ll 6 wrth roi pefr ar
ddechrau'r ll. hon a gadael y ll. nesaf sillaf yn fyr. Yn Ll 6 yn unig y ceir y
gair anghyffredin penglymau yn 46; efallai fod
ansoddair unsill wedi'i hepgor ar ôl hwnnw. ballasg Os cywir y darlleniad, hon yw'r
unig enghraifft o'r gair y tu allan i'r geiriaduron. Fe'i nodir gan Thomas
Wiliems a John Davies gyda'r ystyr 'plisg, masgl, cibau', gw. GPC 252, lle
cynigir ei darddu o'r gwreiddyn *bhel- 'crawen, tonnen,
rhisgl', gan gymharu'r Wyddeleg blaesg, bloesg,
'plisgyn, cibyn'. Ond ni cheir y ffurf hon yn yr un o'r testunau llawysgrif. Y
peth agosaf yw varllesg Ll 6. Darlleniad pob un o
lawysgrifau fersiwn y Vetustus yw balleg, sef gair yn
golygu 'cawell'. Yr unig dystiolaeth bendant dros ballasg yw'r dyfyniad enghreifftiol yng ngeiriadur John
Davies, sy'n fersiwn arall ar y llinell hon: 'Bond ballasg tew sy'r cnewyll.
D.G. i'r cnau.' Nid yw'n glir faint o awdurdod sy'n perthyn i'r darlleniad
hwnnw, gan gofio bod y llinell yn wahanol yng nghopi John Davies yn Pen 49
(cywirwyd cewyll i cnewyll yno,
ond ni newidiwyd balleg). 47-8. Yn G 4 a Ll 120 yn unig y ceir y cwpled hwn.
Mae'r arddull yn annodweddiadol o waith DG, sef un ddelwedd ffraeth yn llenwi
cwpled cyfan, ond nid yw hynny ynddo'i hun yn ddigon o reswm dros ei wrthod.
Cyfeirir at y modd y mae'r gneuen yn ymwthio trwy'r
cibyn gwyrdd sy'n ei
hamgylchynu. 50. siamplau serch Ceir yr un ymadrodd
yng nghywydd Ieuan ap Rhydderch, GIRh 2.38 (cymh. hefyd siamplon serch, 2.24). Benthyciad o'r Saesneg neu'r
Ffrangeg sample yw siampl, ac
mae'n glir mai 'arwyddion' yw'r ystyr yma, gw. GPC 3260-1. 52. Ysgolan cymeriad mewn chwedl goll,
ac un a oedd hefyd yn adnabyddus yn Llydaw dan yr enw Skolan, gw. A. O. H. Jarman, 'Cerdd Ysgolan', YB X (1977),
51-78. Yn yr englynion amdano yn Llyfr Du Caerfyrddin mae cryn bwyslais ar
bechod a phenyd, ac awgrymodd Jarman (t. 51) mai cyfeirio at ei ddioddefiadau
ei hun fel carwr a wna Dafydd wrth ei ddisgrifio ei hun fel Ysgolan. Ond gan
fod manylion y chwedl yn anhysbys bellach, anodd bod yn sicr am
arwyddocâd y cyfeiriad. Gan fod sôn yn ail hanner y llinell am
gadw'r cnau'n anweledig, tybed a fu Ysgolan yn llechu mewn fforest yn y chwedl?
Sylwer fod pennill cyntaf englynion y Llyfr Du yn ei ddisgrifio'n ddu ei gorff,
ei wisg a'i farch (gw. Jarman, 52). 57. cyn lludw glasbridd Tebyg mai
tynged y cnau yn pydru yn y ddaear sydd mewn golwg yma (sylwer fod y Gwr
Eiddig yn taflu'r cnau 'ymysg lludw mawn' yng nghywydd Iolo Goch, GIG XXVI.24).
Ond mae lludw yn dwyn i gof dynged dyn yn y bedd hefyd,
a gallai fod amwysedd bwriadol yma, fel yr awgrymodd Gruffydd (HGDG 47).