1 {I Forfydd ac i'r Cnau}
1 Salm im cof o lyfr Ofydd
2 Serchog anifyriog fydd
3 heb gael cydymddaith dan llaw
4 I addef f'amcan iddaw
5 mae vn fel y damunwyf
6 brawd i'm oll i brydu mwyf
7 Cymhorthiad i'm cariad caeth
8 Cynghorwr cangau hiraeth
9 Ni bu ddynan fechan fach
10 Os mul hi ysmal haeach
11 Ni wna nemor o dwyll-freg
12 I ni ein dau y nyn deg
13 Ac yntau a ddechreuawdd
14 Cynnyrchiad cariad nid cawdd
15 gwarae gann gwyddyn paham
16 ir eigr bryd a orugam
17 Cnau i'm llaw ddeau ddiwg
18 I'm y don a mi au dwg
19 pys irgyll rhydd gwydd gweilchwynt
20 pam y mae tau orddgnau ynt?
21 Eu danfon i'm rym rwym-bleth
22 O bwy eb ef i ba beth
23 Edrych er na leisych les
24 Ai dyn fwyn a'u danfones
25 Meinir vn bryd a manwawn
26 Morfydd deg mawr fydd ei dawn
27 Ath gar di y dyn beirddglwyf
28 Car od gwn caredic wyf
29 Om car gad yna em cant
30 Cyfnifer cof a nwyfiant
31 dugum i'r cnau golau goel
32 doniog myn duw a deinioel
37 Yscyn-was wyf ascen-oed
38 os gwir coel yscwiair coed
39 Os cywydd crefydd nim cred
40 Os coed gwir ys cael gwared
41 Oed mewn irgoed mwyn argoel
42 a fydd onid celwydd coel
43 fflacedau a phlu coedydd
44 i gyd gweddaidd amyd gwydd
45 Pand ballec tew eu cewyll
46 pefr fotymmau cangau cyll
47 pennau byssedd pan bwyssynt
48 drwy fenig y goedwig gynt
49 Nid an anwyl dwyn annerch
50 o fottymmau siamplau serch
51 Nis tyrr min er glythineb
52 Ysgolan wyf nis gwyl neb
53 Ni thorrir wir warafun
54 A charreg befr anrheg bun
55 Minnau fy hun i'm lluniaeth
56 o gnau y Mab rhad au gwnaeth
57 yw glwysbryd cyn lludw glasbridd
58 A dalaf bwyth ffrwyth y ffridd
dd' ap Gwilym