â â â Taith i Garu
1â â â A gerddodd neb er gordderch
2â â â A gerddais i, gorddwy serch,
3â â â Rhew ac eiry, rhyw garedd,
4â â â Glaw a gwynt er gloyw ei gwedd?
5â â â Ni chefais eithr nych ofwy.
6â â â Ni chafas deudroed hoed hwy
7â â â Ermoed i Gellïau'r Meirch,
8â â â Eurdrais elw, ar draws Eleirch
9â â â Yn anial dir, yn uniawn
10â â â Nos a dydd, ac nid nes dawn.
11â â â O! Dduw, ys uchel o ddyn
12â â â Ei floedd yng Nghelli Fleddyn:
13â â â Ymadrodd er ei mwyn hi,
14â â â Ymarddelw o serch bûm erddi.
15â â â Bysaleg iselgreg sôn,
16â â â Berwgau lif bergul afon,
17â â â Mynych iawn er ei mwyn hi
18â â â Y treiddiwn beunydd trwyddi.
19â â â I Fwlch yr awn yn falch rydd,
20â â â Mau boen dwfn, Meibion Dafydd,
21â â â Ac ymaith draw i'r Gamallt
22â â â Ac i'r Rhiw er gwiw ei gwallt.
23â â â Ebrwydd y cyrchwn o'r blaen
24â â â Gyfaelfwlch y Gyfylfaen
25â â â I fwrw am forwyn wisgra
26â â â Dremyn ar y dyffryn da.
27â â â Ni thry nac yma na thraw
28â â â Hebof yn lledrad heibiaw.
29â â â Ystig fûm ac anaraf
30â â â Ar hyd Pont Cwcwll yr haf
31â â â A gogylch Castell Gwgawn-
32â â â Gogwydd cyw gwydd lle câi gawn.
33â â â Rhedais heb adail Heilin
34â â â Rhediad bloesg fytheiad blin.
35â â â Sefais goris llys Ifor
36â â â Fal manach mewn cilfach côr
37â â â I geisio heb addo budd
38â â â Gyfarfod â gwiw Forfudd.
39â â â Nid oes dwyn na dwys dyno
40â â â Yn neutu glyn Nant-y-glo
41â â â Nas medrwyf o'm nwyf a'm nydd
42â â â Heb y llyfr, hoywbwyll Ofydd.
43â â â Hawdd ym wrth leisio i'm dwrn
44â â â Gwir nod helw Gwernytalwrn
45â â â Lle cefais weled, ged gu,
46â â â Llerwddyn dan fantell orddu,
47â â â Lle gwelir yn dragywydd,
48â â â Heb dwf gwellt, heb dyfu gwydd,
49â â â Llun ein gwâl dan wial da,
50â â â Lle briwddail, fal llwybr Adda.
51â â â Gwae ef, yr enaid, heb sâl
52â â â Rhag blinder, heb gwbl undal,
53â â â O thry yr unffordd achlân
54â â â Y tröes y corff truan.