| Taith i Garu | |
| A gerddodd neb er gordderch | |
| A gerddais i, gorddwy serch, | |
| Rhew ac eiry, rhyw garedd, | |
| 4 | Glaw a gwynt er gloyw ei gwedd? |
| Ni chefais eithr nych ofwy. | |
| Ni chafas deudroed hoed hwy | |
| Ermoed i Gellïau'r Meirch, | |
| 8 | Eurdrais elw, ar draws Eleirch |
| Yn anial dir, yn uniawn | |
| Nos a dydd, ac nid nes dawn. | |
| O! Dduw, ys uchel o ddyn | |
| 12 | Ei floedd yng Nghelli Fleddyn: |
| Ymadrodd er ei mwyn hi, | |
| Ymarddelw o serch bûm erddi. | |
| Bysaleg iselgreg sôn, | |
| 16 | Berwgau lif bergul afon, |
| Mynych iawn er ei mwyn hi | |
| Y treiddiwn beunydd trwyddi. | |
| I Fwlch yr awn yn falch rydd, | |
| 20 | Mau boen dwfn, Meibion Dafydd, |
| Ac ymaith draw i'r Gamallt | |
| Ac i'r Rhiw er gwiw ei gwallt. | |
| Ebrwydd y cyrchwn o'r blaen | |
| 24 | Gyfaelfwlch y Gyfylfaen |
| I fwrw am forwyn wisgra | |
| Dremyn ar y dyffryn da. | |
| Ni thry nac yma na thraw | |
| 28 | Hebof yn lledrad heibiaw. |
| Ystig fûm ac anaraf | |
| Ar hyd Pont Cwcwll yr haf | |
| A gogylch Castell Gwgawn— | |
| 32 | Gogwydd cyw gŵydd lle câi gawn. |
| Rhedais heb adail Heilin | |
| Rhediad bloesg fytheiad blin. | |
| Sefais goris llys Ifor | |
| 36 | Fal manach mewn cilfach côr |
| I geisio heb addo budd | |
| Gyfarfod â gwiw Forfudd. | |
| Nid oes dwyn na dwys dyno | |
| 40 | Yn neutu glyn Nant-y-glo |
| Nas medrwyf o'm nwyf a'm nydd | |
| Heb y llyfr, hoywbwyll Ofydd. | |
| Hawdd ym wrth leisio i'm dwrn | |
| 44 | Gwir nod helw Gwernytalwrn |
| Lle cefais weled, ged gu, | |
| Llerwddyn dan fantell orddu, | |
| Lle gwelir yn dragywydd, | |
| 48 | Heb dwf gwellt, heb dyfu gwŷdd, |
| Llun ein gwâl dan wial da, | |
| Lle briwddail, fal llwybr Adda. | |
| Gwae ef, yr enaid, heb sâl | |
| 52 | Rhag blinder, heb gwbl undal, |
| O thry yr unffordd achlân | |
| Y tröes y corff truan. | |