Taith i Garu
    A gerddodd neb oherwydd ei serch
    [cymaint ag] a gerddais i,
    gorthrwm serch [yn sgil] angerdd eithafol,
4    [trwy] rew ac eira a [thrwy] law a gwynt [hefyd] er mwyn yr un
		  ddisglair ei gwedd? 
    Ymweliad gan nychdod yn unig a gefais.
    Ni chafodd [neb arall] erioed [a aeth]
    ar droed i Gellïau'r Meirch [ac] ar draws Eleirch
8    chwithdod mwy eithafol, colli bendithion [yr un] euraid [a
		  wneuthum], 
    ac i dir diffaith, [mynd] yn unswydd [a wnawn] 
    nos a dydd, ac nid [oeddwn] yn nes [at gael fy] ngwobr. 
    O! Dduw, uchel oedd gwaedd y dyn hwn
12    yng Nghelli Fleddyn: 
    er ei mwyn hi bûm yn cyhoeddi [fy serch],
    er ei mwyn hi bûm yn tystio i'm serch.
    Bysaleg [a'i] murmur tawel a llaes,
16    [a] bwrlwm ei llif wedi ei gau [rhwng glannau] yr afonig fer a
		  chul, 
    byddwn yn cerdded yn fynych ac yn feunyddiol trwyddi
    er ei mwyn hi. 
    Awn yn frwd a pharod i Fwlch Meibion Dafydd, 
20    poen dwys [sydd] i'm rhan, 
    ac ymlaen draw i'r Gamallt
    ac i'r Rhiw er mwyn yr un â'r gwallt prydferth.
    Awn yn fy mlaen yn fuan o'r copa
24   i Fwlch y Maen [ac i'r] agen gul rhwng y clogwyni 
    er mwyn cadw llygad ar y dyffryn helaeth
    oherwydd yr enethig a'i gwisg o ffwr.
    Ni all lwybreiddio heibio i mi
28   nac yma nac acw yn llechwraidd. 
    Bûm [yn rhodio] yn daer ac yn frwd
    ar hyd Pont Cwcwll [bob] haf 
    ac yng nghyffiniau Castell Gwgawn
32    [a'm] hymarweddiad [megis] cyw gwydd yn cael [pigo
		  ymhlith] y brwyn. 
    Euthum ar ras heibio cartref Heilin
    [megis] bytheiad dyfal a'i wynt yn ei ddwrn yn dilyn trywydd [yr
		  helfa].
    Arhosais [yn llonydd] ger neuadd Ifor
36   fel mynach yng nghornel cangell yr eglwys 
    i geisio cwrdd â Morfudd deg
    er nad oedd yn addo [fy] ngwobrwyo.
   Nid oes ar lechweddau dyffryn Nant-y-glo 
40    na bryn na phant serth 
    nad wyf yn eu hadnabod ar fy nghof yn sgil fy angerdd a'm
		  treiglo helaeth,
    Ofydd helaeth ei ddysg [ydwyf].
    Wrth alw trwy fy nwrn hawdd i mi yw
44    [sicrhau fy] ngwobr [yng] Ngwernytalwrn, [sef fy] union
		  fwriad, 
    lle y cefais weled, anrheg annwyl,
    morwyn luniaidd yn ei hugan tywyll
    [a] lle y gellir gweld hyd y dydd heddiw
48    ffurf ein gorweddfan dan lwyni cysgodol 
    heb borfa yn tyfu [yno nac unrhyw] goedach,
    mangre'r dail mân, fel llwybr Adda.
    Gwae yr enaid heb rodd
52    nac unrhyw warant o gwbl [yn arfogaeth] rhag cystudd [y
		  Farn]
    os bydd rhaid iddo ddilyn yr un ffordd yn llwyr
    ag a ddilynodd y corff truenus.