â â â Moliant Ieuan Llwyd ab Ieuan Fwyaf
1â â â Neud Mai, neud erfai adarfeirdd traeth,
2â â â Neud manwyrdd coedydd, wydd
weyddiaeth,
3â â â Neud meinwedn gan edn ganiadaeth-anawdd,
4â â â Neud mi a'i heurawdd, neud mau hiraeth.
5â â â Nid er na chaffwyf, loywnwyf luniaeth,
6â â â Newyddion roddion ym Môn a maeth,
7â â â Nid eisiau heiliau, hael wasanaeth-byd,
8â â â Neud heb anwylyd, tybion alaeth.
9â â â Neud temlau, byrddau, beirdd ysgafaeth,
10â â â Neud teulu eirian teuluwriaeth,
11â â â Na'm bu hyn, Duw gwyn, gweinidogaeth-serch,
12â â â Nad am annerch merch, mawrchwant neud
gwaeth:
13â â â Na welaf Ieuan, ddifan ddofaeth,
14â â â Na wyl yntau fi, rhi rhywiogaeth.
15â â â Neud af, anwylaf unoliaeth,-ataw,
16â â â Nid wyf hy hebddaw, ddifraw ddofraeth.
17â â â Gwyllt wyf tra gwelwyf gwaly mabolaeth,
18â â â Gwenwynwys ynof gwin wasanaeth,
19â â â Gwedy, gwydn y'm try, treftadogaeth-braw,
20â â â O gyhoedd wylaw, gywyddoliaeth.
21â â â Gwyrddgae yw'r lle mae, mi a'i rhydraeth,
22â â â Gwarae o feddiant, gwir ofyddiaeth,
23â â â Gwyndir cryf lle tyf tafarnwriaeth-hoed
24â â â A gwydr egin coed, gwiw diriogaeth.
25â â â Gwelaf yn bennaf ei unbennaeth,
26â â â Gwalch o hil Lawdden, gweilch
helyddiaeth,
27â â â Gwaredfeirdd ydiw, gwirodfaeth-cerddawr,
28â â â Gwawr a garodd awr y gerddwriaeth.
29â â â Gwas diog fyddaf i'm gwesteiaeth,
30â â â Gwastad erbyniad yw'r aur bennaeth;
31â â â Gwaenwyn, gwiw ancwyn, ei uncaeth-fyddaf,
32â â â Gaeaf, cynhaeaf a haf hyfaeth.
33â â â Da cadwai awdur, deg geidwadaeth,
34â â â Da a fyn ym gnawd, diofn y'm gwnaeth.
35â â â Durgrwydr yw dôr brwydr ar dir
breudraeth-môr,
36â â â Dôr difraw ragor, Deifr wrogaeth.
37â â â Difanol eiriol arial pennaeth,
38â â â Difai, medd pob rhai, y rhydd luniaeth.
39â â â Dyfodiad, trwsiad, treisiaeth-a gynnail,
40â â â Defodau Huail, hail ehelaeth.
41â â â Dibwl, difygwl bendefigaeth,
42â â â Diball, dyn arall nid un wriaeth,
43â â â Difai, dôr erfai, dewr arfaeth-drudchwyrn,
44â â â Difan aur dëyrn dwfn wrdaaeth.
45â â â Da fygylarf gwyr, Lyr
filwriaeth,
46â â â Difygylodd fi, da fugeiliaeth.
47â â â Dwbled ym, rym rwymedigaeth-llurig
48â â â Dyblig, mad edmig, yw'r mau dadmaeth.