Nodiadau: 96 - Taith i Garu

GDG 83; SPDG cerdd 35

Hynodrwydd y cywydd hwn yw'r modd yr enwir gan y bardd y mannau hynny yr arferai deithio trwyddynt wrth iddo ymweld â'i gariad, Morfudd. Dangoswyd bod modd adnabod y rhan fwyaf o'r mannau hynny a'u bod ym mro Dafydd ac yng nghyffiniau ei gartref ym Mrogynin, a chrynhoir yr esboniadau a gynigiwyd yn y nodiadau isod, gw. David Jenkins, 'Enwau personau a lleoedd yng nghywyddau Dafydd ap Gwilym', B viii (1935–7), 140–5; Id., 'Dafydd ap Gwilym yn ei fro', Y Traethodydd 133 (1978), 83–8; Id., Bro Dafydd ap Gwilym (Tal-y-bont, 1992), 27–45; R J Thomas, 'Dafydd ap Gwilym a Cheredigion', Y Llenor xxi (1942), 34–6; R Geraint Gruffydd, 'Love by toponomy: Dafydd ap Gwilym and place-names', Nomina 19 (1996), 29–42. Cynigiodd Bobi Jones fod y cywydd hwn yn farwnad i Forfudd a bod y sôn am y corff a'r enaid yn y ddau gwpled sy'n cloi'r gerdd yn allwedd i ddeall hynny, gw. 'Wrth angor: Marwnad Morfudd', Barddas 173 (1991), 6–8. 'Dim ond ar adeg marwolaeth y bydd yr enaid yn ymadael â'r corff. Does dim modd felly esbonio'r pedair llinell olaf yng nghywydd Dafydd yn foddhaol heb gynnig fod Dafydd bellach yn sylweddoli fod Morfudd yn farw'. Llai mentrus fyddai derbyn mai'r hyn a wneir yn y cywydd yw cyfosod y gorffennol pan gâi Dafydd a Morfudd rannu cwmni ei gilydd a'r presennol a'r bardd bellach yn chwilio yn seithug am ei gariad (? am ei bod erbyn hyn yn wraig briod).

Mân wahaniaethau yn unig sydd rhwng y copïau pwysicaf sy'n tarddu yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol o'r Vetustus, sef H 26, Pen 49, G 3 a Bl e 1. Ymddengys fod hyd rhai o'r llinellau yn afreolaidd yn y gynsail ac i gopïwyr G 3 a Bl e 1 ymdrechu i'w rheoleiddio.

Cynghanedd: croes 15 ll. (28%), traws 18 ll. (33%), sain 11 ll. (20%), llusg 1 ll. (2%), digynghanedd 7 ll. (13%), pengoll 1 ll. a braidd gyffwrdd 1 ll. (4%)

3. eiry   Chwe sillaf sydd yn y llinell. Diwygiwyd i eira yn Bl e 1 ac i y rhyw garedd yn G 3. Dilynodd GDG yr olaf.

4.   Hepgorwyd y cysylltair sy'n digwydd ar ddechrau'r llinell ym mhob copi er mwyn sicrhau bod hyd y llinell yn rheolaidd.

7. Cellïau'r Meirch   Uniaethodd David Jenkins y fan hon â llety'r March Melyn ond barnai R Geraint Gruffydd mai'r ffermdy a adwaenid yn yr 16g wrth yr enw Tyddyn Cellïau'r Meirch neu Dyddyn Celli'r Meirch ac a leolid o fewn milltir i Frogynin a enwir yma.

8. Eleirch   Pentref Elerch erbyn hyn. Treflan ar godiad tir ym mhlwyf Llanbadarn Fawr, ryw ddwy filltir o Frogynin.

9. Yn anial dir, yn uniawn   Anodd gweld sut y dylid dehongli'r llinell yn GDG ar gyfrif yr atalnodi ond cysylltodd R Geraint Gruffydd y llinell yn art.cit. ag Eleirch yn y llinell flaenorol; dangosodd mai tir agored a diffaith sydd yng nghyffiniau Eleirch a leolir ryw ddwy filltir i'r gogledd-ddwyrain o Frogynin. Mentrus fyddai diwygio i Yn anial, dir anuniawn. Ar anial 'gofidus', gw. GPC 130 (perthyn yr enghreifftiau cynharaf i'r 15g) ac ar dir 'trais; caledi, amgylchiad cyfyng', gw. GPC 1030.

12. Celli Fleddyn   Ni oroesodd yr enw hwn, ond diogelwyd cofnod a berthyn i'r flwyddyn 1277–80 am terra filii Blethin yng nghwmwd Genau'r Glyn.

14.   Wyth sillaf yn y llinell o ddilyn H 26 a Pen 49. Hepgorwyd yr arddodiad yn G 3 a Bl e 1.

15. Bysaleg   Afon Stewi a lifai heibio Brogynin ac a adwaenid gynt wrth yr enw Masaleg.

17.   Cynghanedd braidd gyffwrdd.

19–20. Bwlch...Meibion Dafydd   Gelwid y ffordd a arweiniai o Frogynin i bentref Eleirch yn Ben Bwlch Meibion Dafydd. Cynigiodd Bobi Jones, art.cit., fod amwysedd yn perthyn i nifer o'r enwau a grybwyllir yn y cywydd, a hwn yn un ohonynt.

21. y Gamallt   Er bod hwn yn enw cyffredin nid oes cofnod am le sy'n dwyn yr enw yng nghyffiniau Brogynin. Barnai R Geraint Gruffydd y gallai Dafydd fod wedi llurgunio'r enw y Geuallt a fuasai o fewn dwy filltir a hanner i Frogynin.

22. y Rhiw    Fe'i trinnir yn GDG fel pe bai yn e.c. ond dangosodd R. Geraint Gruffydd fod lle o'r enw Penrhiwnewydd o fewn milltir i Frogynin.

24. Cyfaelfwlch y Gyfylfaen   Awgrymodd R. J. Thomas mai'r enw Bwlch y Maen a enwir yn y llinell a hwnnw 'wedi ei ddieithrio â thipyn o addurn cynganeddol', gw. B xx (1962–4), 255. Dilynodd GDG ddarlleniad G 3 a Bl e 1, sef Gafaelfwlch, o gafael + bwlch. Bernir mai ffurf dreigledig Cyfaelfwlch sydd yn H 26 a Pen 49 o cyfael ? 'ael-yn-ael', gw. GPC 674 + bwlch.

25.   Cynghanedd bengoll.

30. Pont Cwcwll   Enwir Tal Pont Cwcwll mewn cofnod o'r 14g. ac uniaethodd David Jenkins y fan â fferm a phentref Tal-y-bont. Pant Cwcwll sydd yn y rhan fwyaf o'r llsgrau. a dyma ddarlleniad GDG, ond Pont Cwcwll a gopïwyd yn Pen 49.

31. Castell Gwgawn   Digwydd mewn cofnod a wnaed yn y 14g., ond diflannodd yr enw erbyn heddiw oni bai fod y fferm Carregcadwgan sydd o fewn pedair milltir i Frogynin yn diogelu olion yr enw gwreiddiol.

33. adail Heilin   Enwir terra Heylin filii Howeli yn y ddogfen a ddiogelodd yr enw Celli Fleddyn.

35. llys Ifor   Dyma un o'r ychydig enwau na lwyddwyd i'w dehongli yn foddhaol. Nid oes cofnod am le sy'n dwyn yr enw hwn yn nghyffiniau Brogynin. Cynigiodd D. J. Bowen mai cwpled strae yw hwn (o gywydd coll o bosibl i Ifor), gw. 'Dafydd ap Gwilym a Cheredigion', LlC 14 (1981–4), 164.

40. Nant-y-glo   Barnai David Jenkins mai Nant-y-glo oedd enw gwreiddiol y dyffryn y lleolid tyddyn Cwm-y-glo (neu Gwm-y-gro yn wreiddiol) ynddo. Enwir Cwm-y-gro yn y cywydd 'Galw ar Ddwynwen', gw. 48.32n.

43.   Chwe sillaf yn y llinell fel y cofnodwyd hi yn H 26 a Pen 49. Ychwanegwyd gair unsill—(g)wn— at y llinell yn Bl e 1 a gadawyd bwlch yn G 3. Dilynwyd diwygiad GDG: Hawdd ym...er bod yr Amrywiadau yn rhoi'r argraff mai dilyn darlleniad H 26 a Pen 49 a wnaed.

44. Gwernytalwrn   Nid yw'r lle hwn yn hysbys bellach er bod sawl lle sy'n cynnwys yr enw Talwrn yng nghyffiniau Goginan, ryw dair milltir o Frogynin.

49.   Dilynwyd darlleniad G 3 a Bl e 1 (a GDG) gan fod wyth sillaf yn y llinell o dderbyn dan y gwial H 26 a Pen 49. Cf. GDG 70.35 I'm gwâl dan y gwial da.

50. briwddail    'Darnau, mân ddrylliau' yw'r ystyr sy'n taro orau i briw. Perthyn yr enghraifft gynharaf a ddyfynnir yn GPC 328 i'r 16g ond cf. 151.17 Braich meinir, briw awch manod.

llwybr Adda   Olion traed Adda wedi iddo gael ei anfon o Ardd Eden. Galwodd Rachel Bromwich ('Llwybr Adda(f)', B xxix (1980–2), 80–1) sylw at gyfeiriadau tebyg a godwyd o waith Gruffudd ab Adda (gw. DGG LXV.39–42 ...ac ni thyf gwellt glas / Danat gan sathr y dinas, / Mwy nag ar lwybr ewybrwynt / Adda a'r wraig gynta' gynt) ac Iolo Goch (gw. GIG XIV.47–52).

51–54. yr enaid...y corff   Gw. y nodyn cefndir. Yr oedd ymrysonau rhwng yr enaid a'r corff yn dra chyffredin yn yr Oesoedd Canol a gwnaeth Iolo Goch ddefnydd celfydd o'r pwnc yn ei gywydd clera, gw. GIG cerdd XIV. Diogelwyd y gerdd gynharaf yn y Gymraeg sy'n cynnwys y cyfryw ymryson yn Llyfr Du Caerfyrddin. Am drafodaeth fanwl ar y gerdd honno ac ar y genre, gw. Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar gol. Marged Haycock (Llandybïe, 1994), cerdd 21.

52.   r wreiddgoll.

54.   Ceir twyll gynghanedd g yn y llinell fel y diogelwyd hi yn H 26 a Pen 49. Dilynwyd darlleniad G 3 a Bl e 1 (fel y gwnaed yn GDG); y mae'n bosibl fod y llsgrau. hyn yn diogelu ffurf ddilys (y ffurf ferfol ddeusill tröes) ond geill mai'r copïwyr eu hunain a ddiwygiodd y llinell i'w chryfhau.