1 A gerddodd neb er gordderch
2 a gerddas i gorddwy serch
3 Rhew ac eiry y rhyw garedd
4 a glaw ac ôd er gloew ei gwedd.
5 Ni chefais eithr nych ofwy
6 ni chafas deu-droed hoed hwy.
7 Er moed i gellîau 'r meirch
8 eurdrais elw ar draws eleirch.
9 Yn annial dir yn vniawn
10 nos a dydd ac nid nes dawn
11 O dduw ys vchel o ddyn
12 ei floedd yng-helli Fleddyn.
13 ymadrawdd er ei mwyn hi
14 ymarddelw serch bum erddi
15 Byssaleg issel-greg sôn
16 berw-gau lif berigl afon.
17 [205r] Mynych iawn er ei mwyn hi,
18 y treiddiwn beunydd trwyddi
19 I fwlch yr awn yn falch rydd
20 mau boen dwfn meibion Dafydd
21 Ac ymaith draw i'r gam-allt
22 ac i'r rhiyw er gwiw ei gwallt
23 Ebrwydd y cyrchwn o'r blaen,
24 gafael-fwlch y Gyfyl-faen
25 I fwrw am forwyn wisgra
26 dremyn ar y dyffryn da
27 Ni thry nac yma na thraw
28 hebof yn lledrad heibiaw
29 Ystig fum ac añaraf
30 ar hyd pant cwcwll yr haf.
31 A gogylch castell Gwgawn
32 gogwydd cyw gwydd lle cae gawn.
33 Rhedais heb adail heilin
34 rhediad bloesc fythiad blin.
35 Deuais goris llys Ifor
36 fel manach mewn cilfach côr
37 I geisiaw heb addaw budd
38 gyfarfod a gwiw Forfudd
39 Nid oes dwyn na dwys dyno
40 yn-neutu glyn nant y glo
41 Nas medrwyf om nwyf am nydd
42 heb y llyfr hoiw-bwyll Ofydd
43 Hawdd [ ] wrth leissiaw i'm dwrn
44 gwîr nôd helw, gwern y talwrn
45 Lle cefais weled ged gu
46 llerw-ddyn dan fantell orddu
47 Lle gwelir yn dragywydd
48 heb dwf gwellt heb dyfu gwydd
49 Llun ein gwal dan wiail da
50 lle briw-ddail fel llwybr Adda
51 Gwae ef yr enaid heb sal
52 rhag blinder heb gwbl vndal
53 O thry yr vnffordd ychlan,
54 y troes y corph truan.
Dauid ap Gwilym