{ko: oi gerdded o am forfydd
1 A gerddodd neb er gordderch
2 a gerddais i gorddwy serch
3 rhew ag eiry rhyw garedd
4 a glaw a gwynt er gloyw i gwedd
5 ni chefais eithr nych ovwy
6 ni chafodd deudroed hoed hwy
7 er moed i gelli er meirch
8 eurdrais elw ar draws eleirch
9 yn anial dir yn vniawn
10 nos a dydd ac nid nes dawn
11 o Dduw ys vwchel oddyn
12 i vloedd ynghelli Vleddyn
13 ymadrawdd er i mwyn hi
14 ymarddelw o serch bvm erddi
15 Bysaleg iselgreg son
16 berw gav lif bergul afon
17 mynech iawn er i mwyn hi
18 y treiddiwn bevnydd trwyddi
19 i vwlch yr awn yn valch rydd
20 mav boen dwfn meibion davydd
21 agymaith draw ir gamallt
22 ag ir rhiw er gwiw i gwallt
23 [286] ebrwydd y cyrchwn or blaen
24 gyvaelvwlch y gyvylvaen
25 i vwrw am vorwyn wisgra
26 dremyn ar y dyffryn da
27 ni thry nag yma na thraw
28 hebof yn lledrad heibiaw
29 ystig vvm ag anaraf
30 ar hyd pant cwcwll yr haf
31 a gogylch castell gwgawn
32 gogwydd Kyw gwydd lle cae gawn
33 rhedais eb adail Heilin
34 rhediad bloesg vitheuad blin
35 sefais goris llys Ivor
36 val manach mewn cilvach cor
37 igeisiaw eb addaw bvdd
38 gyvarvod a gwiw Forvudd
39 nid oes dwyn na dwys dyno
40 yn eutu glyn nant y glo
41 nas medrwyf om nwyf am nydd
42 heb vy llyvr hoywbwyll Ovydd
43 hawdd wrth leisiaw i'm dwrn
44 gwir not helw gwern y talwrn
45 Lle cefais weled ged gn
46 Llerwddyn dan vantell orddu
47 Lle i gwelir yn dragywydd
48 heb dwf gwellt heb dyfu gwydd
49 Llvn ein gwal dan y gwial da
50 lle briwddail val llwybr Adda
51 gwae ef yr enaid heb sal
52 rhac blinder heb gwbl vndal
53 o thry yr vnfordd achlan
54 ag y troes y corph truan
Dauid ap Gwilim