â â â Gofyn Cymod
1â â â Teg Forfudd, Tegau eurfalch, 
2â â â Tywyn haul daer ar gaer galch, 
3â â â Tâl am fy ngwawd cyn toli: 
4â â â Twyll y prydyddion wyd di. 
5â â â  Tyfodd i'm bron gron o gred 
6â â â Dolur dy anwadaled: 
7â â â Rhai a'r a'th eilw 'y rhiain' 
8â â â A ddywaid, fy enaid fain, 
9â â â Na thrig ym, pendefig poen, 
10â â â Dy gariad, deg ei goroen, 
11â â â Mwy nog ewyn, gwynddyn gwiw, 
12â â â Ar ôl dwfr, arial difriw. 
13â â â Difawr sâl, hoen Dyfr o sud, 
14â â â Deuwell y gwarandawud, 
15â â â Dig ym glywed dy gymwyll, 
16â â â Y dyn a ddoetai o dwyll, 
17â â â Ar ei ruthr, air o athrod, 
18â â â Degau glaer, no deg o glod. 
19â â â Nid o'm bodd yr adroddwn 
20â â â Arnad, ôd gawad, od gwn, 
21â â â Dielw o serch, deuliw sêr, 
22â â â Daldal, dy anwadalder. 
23â â â  Pe rhôn ym, pe rhin amwyll, 
24â â â Mewn brwysgedd, tywylledd twyll, 
25â â â Â doedyd gair cellweirus 
26â â â Yrhwng ynfydrwydd a rhus, 
27â â â Gwybydd, er buchedd Gybi, 
28â â â Ddeuliw ton, na ddlÿud di, 
29â â â Gem aur glaer, gymar y glod, 
30â â â Gomedd croesan o gymod. 
31â â â Gwen, gwybydd, dan freisgwydd fry, 
32â â â Fy meddwl o'm gomeddy; 
33â â â Ni chad o'm pen absennair. 
34â â â Nid felly gwnaeth Mab maeth Mair 
35â â â Am y dall, diamau dôn, 
36â â â Ar ddaear, o'r Iddewon, 
37â â â A'i gorug, bu chwedl girad, 
38â â â Glwyfo'i fron â glaif o frad. 
39â â â  Swllt hoywfardd, syll di hefyd 
40â â â Maint fu drugaredd, fy myd, 
41â â â Morwyn wyrf, mirain ffyrf ffydd, 
42â â â Merch Anna, mawr ei chynnydd, 
43â â â Geinem, pan ei goganwyd 
44â â â Siesu, blaid o Sioseb lwyd: 
45â â â Ni wnaeth, ni bu annoethair, 
46â â â Na daly gwg na dial gair. 
47â â â  Nid oes bechawd, fethlgnawd faith, 
48â â â Marwol mwy ei oferwaith 
49â â â No thrigo, mawr uthr ogan, 
50â â â Mewn llid, eiliw Enid lân. 
51â â â Deuliw'r haul, da loer yrhawg, 
52â â â Dilidia, 'r dyn dyledawg. 
53â â â Na fydd, teg yw'r crefydd tau, 
54â â â Grynwraidd dros gryn eiriau, 
55â â â 'Y myd, wrth dy brydydd mwy 
56â â â Diledach, deoladwy. 
57â â â Fy aur, cymer ddiheurad 
58â â â Ac iawn lle ni aller gwad. 
59â â â Cynnal faswedd i'th weddi: 
60â â â Cymod, liw manod, â mi.