Gofyn Cymod
   Morfudd deg, [un debyg i] Degau euraid a balch, 
   tywyniad haul tanbaid ar gaer wyngalchog, 
   tâl am fy ngherddi mawl cyn cynilo: 
4   twyll y beirdd wyt ti. 
   Tyfodd yn fy mron gron, o [ganlyniad i] ymddiriedaeth, 
   ddolur [gan] mor anwadal [wyt ti]: 
   dywed rhai sy'n dy alw 'y forwyn', 
8   fy anwylyd fain, 
   nad erys imi, bonheddwr poen, 
   dy gariad, [ferch] deg ei disgleirdeb, 
   mwy nag ewyn (ferch wen weddus) 
12   ar ôl dwr (bywiogrwydd dianaf). 
   Taliad bychan, [y ferch â] gloywder Dyfr o ran gwedd-
		  
   ddwywaith yn well y gwrandawet 
   ([mae] dicter imi o glywed dy grybwyll) 
16   ar y dyn a ddywedai drwy dwyll 
   [ac] ar frys air o enllib 
   ([un fel] Tegau ddisglair) nag [ar y dyn a ddywedai] ddeg [gair]
		  o glod. 
   Nid o'm bodd y cyhuddwn 
20   di ([ferch fel] cawod eira), yn wir, 
   (heb elw o serch, [ferch] ddwywaith tecach ei lliw na sêr)
		  
   dalcen wrth dalcen, o anwadalwch. 
   Pe digwyddai imi (pe bai [gennyf] natur wallgof) 
24   mewn meddwdod (tywyllwch twyll) 
   ddweud gair cellweirus 
   rhwng ynfydrwydd a chyffro, 
   sylweddola, er mwyn buchedd Cybi, 
28   [ferch] ddwywaith tecach ei lliw na thon, na ddylet ti 
   (gem euraid ddisglair, cymar y mawl) 
   wrthod cymod i glerwr. 
   Ferch, sylweddola, dan goed cadarn fry, 
32   [beth fydd] fy meddwl os gwrthodi fi 
   (ni chafwyd o'm pen air o enllib). 
   Nid felly y gwnaeth y Mab a fagwyd gan Fair 
   ynglyn â'r dyn dall (llais diamheuol) 
36   ar y ddaear, o [blith] yr Iddewon, 
   a wnaeth (bu'n hanes creulon) 
   glwyfo Ei fron â phicell drwy frad. 
   Trysor bardd bywiog, edrych di hefyd 
40   pa faint oedd trugaredd (fy anwylyd) 
   morwyn wyryfol, hardd a chadarn [ei] ffydd, 
   merch Anna, mawr ei llwyddiant, 
   gem gain, pan ddirmygwyd 
44   yr Iesu, [aelod o] deulu Joseff sanctaidd: 
   ni wnaeth (ni fu gair annoeth) 
   na dal gwg na dial [am y] gair. 
   Nid oes pechod marwol (chwerwder [sy]'n maglu cnawd) 
48   mwy ei effaith ddi-fudd 
   nag aros (difrïo mawr a chreulon) 
   mewn dicter, [ferch] o'r un lliw ag Enid bur. 
   [Ferch] ddwywaith tecach ei lliw na'r haul, [fel] lleuad dda yn
		  awr, 
52   rho'r gorau i'th ddicter, y ferch fonheddig. 
   Paid â bod (teg yw dy grefydd di) 
   yn grintachlyd oherwydd ychydig eiriau, 
   fy anwylyd, wrth dy fardd mwyach 
56   [sydd yn] fonheddig ac yn agored i'w alltudio. 
   Fy nghariad, derbyn esgusawd 
   ac iawn lle ni ellir gwadu [hynny]. 
   Cadw nwyf yn dy weddi: 
60   cymod ([y ferch o] liw eira mân) â mi.