Gofyn Cymod
Morfudd deg, [un debyg i] Degau euraid a balch,
tywyniad haul tanbaid ar gaer wyngalchog,
tâl am fy ngherddi mawl cyn cynilo:
4 twyll y beirdd wyt ti.
Tyfodd yn fy mron gron, o [ganlyniad i] ymddiriedaeth,
ddolur [gan] mor anwadal [wyt ti]:
dywed rhai sy'n dy alw 'y forwyn',
8 fy anwylyd fain,
nad erys imi, bonheddwr poen,
dy gariad, [ferch] deg ei disgleirdeb,
mwy nag ewyn (ferch wen weddus)
12 ar ôl dwr (bywiogrwydd dianaf).
Taliad bychan, [y ferch â] gloywder Dyfr o ran gwedd-
ddwywaith yn well y gwrandawet
([mae] dicter imi o glywed dy grybwyll)
16 ar y dyn a ddywedai drwy dwyll
[ac] ar frys air o enllib
([un fel] Tegau ddisglair) nag [ar y dyn a ddywedai] ddeg [gair]
o glod.
Nid o'm bodd y cyhuddwn
20 di ([ferch fel] cawod eira), yn wir,
(heb elw o serch, [ferch] ddwywaith tecach ei lliw na sêr)
dalcen wrth dalcen, o anwadalwch.
Pe digwyddai imi (pe bai [gennyf] natur wallgof)
24 mewn meddwdod (tywyllwch twyll)
ddweud gair cellweirus
rhwng ynfydrwydd a chyffro,
sylweddola, er mwyn buchedd Cybi,
28 [ferch] ddwywaith tecach ei lliw na thon, na ddylet ti
(gem euraid ddisglair, cymar y mawl)
wrthod cymod i glerwr.
Ferch, sylweddola, dan goed cadarn fry,
32 [beth fydd] fy meddwl os gwrthodi fi
(ni chafwyd o'm pen air o enllib).
Nid felly y gwnaeth y Mab a fagwyd gan Fair
ynglyn â'r dyn dall (llais diamheuol)
36 ar y ddaear, o [blith] yr Iddewon,
a wnaeth (bu'n hanes creulon)
glwyfo Ei fron â phicell drwy frad.
Trysor bardd bywiog, edrych di hefyd
40 pa faint oedd trugaredd (fy anwylyd)
morwyn wyryfol, hardd a chadarn [ei] ffydd,
merch Anna, mawr ei llwyddiant,
gem gain, pan ddirmygwyd
44 yr Iesu, [aelod o] deulu Joseff sanctaidd:
ni wnaeth (ni fu gair annoeth)
na dal gwg na dial [am y] gair.
Nid oes pechod marwol (chwerwder [sy]'n maglu cnawd)
48 mwy ei effaith ddi-fudd
nag aros (difrïo mawr a chreulon)
mewn dicter, [ferch] o'r un lliw ag Enid bur.
[Ferch] ddwywaith tecach ei lliw na'r haul, [fel] lleuad dda yn
awr,
52 rho'r gorau i'th ddicter, y ferch fonheddig.
Paid â bod (teg yw dy grefydd di)
yn grintachlyd oherwydd ychydig eiriau,
fy anwylyd, wrth dy fardd mwyach
56 [sydd yn] fonheddig ac yn agored i'w alltudio.
Fy nghariad, derbyn esgusawd
ac iawn lle ni ellir gwadu [hynny].
Cadw nwyf yn dy weddi:
60 cymod ([y ferch o] liw eira mân) â mi.