Nodiadau: 97 - Gofyn Cymod

GDG 52, HGDG tt. 28–30

Mynegir yn y cywydd hwn y teimladau cymysg hynny sy'n nodweddiadol o berthynas Dafydd a Morfudd. Ar y naill law dywed Dafydd ei bod yn hardd a bywiog gan ei chymharu â rhai o arwresau mwyaf rhinweddol y traddodiad Cymreig. Ond ar y llaw arall y mae'n ei galw'n oriog ac yn anwadal. Dywed fod yr anwadalrwydd hwnnw yn achosi poen iddo, a'i fod wedi clywed nad yw hi'n gyson yn ei chariad. Cwyna am ei pharodrwydd i wylltio am y peth lleiaf, ac er yr ymddengys ei fod wedi dweud rhywbeth i'w digio, y mae'n yn glir yn ei farn y dylai Morfudd faddau iddo. Daw elfen grefyddol i'w ddadl wrth iddo atgoffa Morfudd fod yr Iesu a Mair wedi maddau i'r rhai a boenydiodd yr Iesu a'i wawdio. Dywed fod dicter yn bechod, ac ar ddiwedd y gerdd y mae'n gorchymyn Morfudd i gymodi ag ef.

Mae syniadau crefyddol yn amlwg iawn yn y cywydd hwn, ac mae Helen Fulton wedi tynnu sylw at ei debygrwydd i bregeth, gan gyfeirio at 'a sermon-like delivery with an ironically irreligious text: "cynnal faswedd i'th weddi" (support wantoness in your prayer)' (DGEC 133). Dywed Huw M. Edwards yntau fod y gerdd yn 'redolent of the rhetorical style of the preacher', ac awgryma y gallai hefyd fod yn barodi ysgafn o rai o awdlau dadolwch y Gogynfeirdd (DGIA 245). Noda ymhellach fod thema cymod yn ddigon cyffredin yn y canu serch cyfandirol (DGIA 246).

Nid yw ochr chwareus Dafydd yn amlwg iawn yma, a dywed John Rowlands '[na]d oes arlliw o dynnu coes ar y gerdd hon' (HGDG 29). Mae Fulton hefyd yn tynnu sylw at ddifrifoldeb llais y bardd pan ddywed '[t]he poet ... emerges at the end as a persuasive and dominant figure', gan ychwanegu '[h]is desciption of himself as "croesan" (buffoon), implies that his criticism of Morfudd was only a joke in the first place, and also emphasizes, by contrast, his worth as a poet and as a lover' (DGEC 133). Yn sicr, nid erfyn yn dawel am faddeuant a wna'r bardd, ond galw'n hyderus ar y ferch i gymodi.

Yn y gerdd hon y mae Dafydd yn cymharu Morfudd â thair merch wahanol, sef Tegau (llau. 1 a 18), Dyfr (ll. 13, ond gw. y nodyn ar y llinell honno) ac Enid (ll. 50). Mae hynny, yn ogystal â'r cyfeiriad at 'y rhiain' yn ll. 9, yn awgrymu bod y bardd yn gyfarwydd â'r triawd 'Tair Rhiain Ardderchog Llys Arthur' (sef Tegau Eurfron, Dyfr Wallt Euraid ac Enid ferch Yniwl Iarll, gw. TYP3 230). Ond dylid nodi nad oes copi o'r triawd hwnnw sy'n gynharach na'r unfed ganrif ar bymtheg.

Cynghanedd: croes 18 ll. (30%), traws 23 ll. (38%), sain 14 ll. (23%), llusg 5 ll. (8%).

Ceir y cywydd hwn mewn rhyw ugain o lawysgrifau. Fe'i cadwyd mewn dwy ffynhonnell gynnar, sef Llyfr Gwyn Hergest a'r Vetustus. Ceir copi o LlGH yn Pen 49 ac amrywiadau ohono yn Wy 2, a cheir copïau o'r Vetustus yn Ba (M) 17 (collwyd llau. 1–32 o'r testun hwnnw oherwydd difrod i'r llawysgrif) a H 26 ac amrywiadau ohono yn Pen 49. Mae'n debyg fod Ll 120 hefyd yn gopi o'r Vetustus, ond ei fod yn tynnu mewn rhai mannau ar destun tebyg i Ll 163 a M 146. Mae perthynas bur agos rhwng y Vetustus a LlGC 560, M 146 a M 212. Mae Ll 163 a hefyd LlGC 5283 yn rhannu rhai nodweddion â LlGH ac eraill â grŵp y Vetustus. Mae LlGH a'r Vetustus yn rhannu'r drefn llinellau. Mae LlGH yn darparu testun eithaf da, ond bu'n rhaid troi at y Vetustus a hefyd at rai o'r llawysgrifau eraill wrth lunio'r testun golygedig (e.e. llau. 13 a 48), fel y gwelir o'r nodiadau.

1. Tegau   Sef Tegau Eurfron, gwraig Caradog Freichfras, gw. TYP3 503–6, WCD 600–2 a'r nodyn cefndir uchod.

eurfalch   Dyma ddarlleniad y Vetustus a'r amrywiadau o LlGH yn Wy 2. Ymddengys felly mai diwygiad John Davies yw darlleniad Pen 49 (fawrfalch), sydd yn ôl pob tebyg yn ymdrech i ateb yr f led-lafarog yn rhan gyntaf y llinell. Ond mae'n bosibl fod sail destunol i'r diwygiad gan mai fowrfalch yw darlleniad Ll 163 a LlGC 560.

2. caer galch   Arferid yn yr Oesoedd Canol wyngalchu tai a cheir cyfeiriadau mynych at hynny yn y farddoniaeth. Gw. ymhellach I. C. Peate, The Welsh House: a Study in Folk Customs (Liverpool, 1944), 29 a cf. 166.7n.

3. fy ngwawd   Dyma'r darlleniad a awgrymir gan LlGH (Pen 49), Ll 163, a LlGC 5283 (cf. 11.4). Gellid hefyd ddilyn y Vetustus a'r testunau pwysig eraill a darllen dy wawd.

7. Rhai a'r a'th eilw 'y rhiain'   Dyma'r darlleniad a awgrymir gan Ll 163, ac mae rhai o'r llawysgrifau eraill (H 26, LlGC 560, M 146, a M 212) o blaid Rhai a'th eilw. Mae'r gystrawen o'r a / a'r a (sy'n deillio o'r arddodiad o + y rhagenw ar + y rhagenw perthynol a) yn nodweddiadol o Gymraeg Canol, er iddi oroesi i'r Cyfnod Modern cynnar, gw. GMW 71. Nodir yno y gwelir y gystrawen yn gyffredin ar ôl y ffurfiau canlynol: ansoddair yn y radd eithaf, pawb, pob + enw, llawer, neb, dim, cwbl, un, a holl. Mae rhai yn cyd-fynd yn dda â'r dosbarth hwn o ffurfiau, ac roedd Dafydd yn sicr yn gyfarwydd â'r gystrawen, gw. 148.36 Am bob gair a'r a ddywawd. O gymryd felly mai Rhai a'r a'th eilw yw'r darlleniad gorau, gellir esbonio Rhai a'th eilw fel diweddariad o'r gystrawen ac A rhai a'th eilw (Ll 120, LlGC 5283, Pen 49, a Wy 2 [o LlGH]) fel ymdrech i gywiro hyd y llinell.

9. pendefig poen   Dyma ddarlleniad LlGH (ar sail Pen 49 a Wy 2) a hefyd Ll 163 a LlGC 5283. Ond poenedig poen a geir yn y Vetustus (H 26) a M 212.

13. Dyfr   Dyma'r darlleniad a awgrymir gan Ll 120 (dyfr), LlGC 560 (difr) a M 146 (dyfyr) ac mae darlleniad Ll 163, LlGC 5283 a M 212 (deifr) yn bur agos. Ymddengys mai dwfr oedd darlleniad LlGH (Pen 49 ac amrywiadau Wy 2) a'r Vetustus (H 26). Mae Dyfr a Deifr yn anos darlleniadau na dwfr, sydd, o bosibl, yn dangos dylanwad dwfr yn ll. 12. Enwir Dyfr Wallt Euraid yn yr un triawd â Thegau ac Enid (gw. y nodyn cefndir uchod a hefyd TYP3 336) ac felly derbynnir y darlleniad Dyfr yma. Ond sylwer y digwydd Deifr hefyd fel enw merch yng ngwaith Dafydd, gw. 72.48n a cymh. GDG 499, a gall deifr a dyfr ill dwy fod yn ffurfiau lluosog dwfr (GPC 1105). Ceir dwy enghraifft yng ngwaith Dafydd o ddefnyddio'r gair hoen gyda Dyfr/Deifr: 72.48 Deifr un hoen, dwy frenhiniaeth, 118.32 Hyn yw dy fryd, hoen Dyfr ŵyl.

sud   Benthyciad o'r Saesneg Canol sute (neu efallai'n uniongyrchol o Ffrangeg Lloegr), gw. GPC 3358. Digwydd hefyd yn y ffurf sut, sy'n ffurf ddichonadwy yma gan y gellid darllen gwarandawut yn ll. 14 isod (gw. y nodyn). Ond ymddengys mai sud oedd y ffurf arferedig yn y bedwaredd ganrif ar ddeg—mae sawl enghraifft ohoni yng ngwaith Dafydd ond ymddengys nad oes yr un enghraifft ddiogel o sut. Darlleniad Pen 49 ac amrywiadau Wy 2 yw sut, ond yn orgraff LlGH gallai hynny gynrychioli sut neu sud.

14. Deuwell y gwarandawud   Gwrthrych y ferf gwarandawud yw Y dyn a ddoetai o dwyll (ll. 16). Ymddengys fod y darlleniad a awgrymir gan LlGH (Pen 49 a Wy 2) Deuwell i'm gwarandawud yn ganlyniad i gamddeall rhediad y frawddeg. Ond mae LlGH wedi cadw'r ffurf ferfol bedeirsill sy'n angenrheidiol ar gyfer hyd y llinell (Pen 49 ac amrywiadau Wy 2: gwarandawut). Sylwer felly fod darllen gwarandawut yn bosibilrwydd, ond cymh. y nodyn ar sud uchod.

15. dig ym glywed   Dyma ddarlleniad y Vetustus (H 26) a hefyd Ll 120 a M 212. Y darlleniad a awgrymir gan LlGH (Pen 49) yw dig ym weled. Ond gan fod y cywydd yn sôn am yr hyn a ddywedir am y ferch, dilynir grŵp y Vetustus yma. Sylwer bod cryn amrywio o ran yr ymadrodd hwn yn y llawysgrifau.

16. Y dyn a ddoetai   Darlleniad GDG yw Dyn a ddywetai, ond mae'r llawysgrifau yn gryf o blaid cynnwys y fannod. Ffurf 3 un.amhff.dib. y ferf doedyd yw doetai. Ar doedyd, ffurf amrywiol ar dywedud, gw. WG 54. Ond mae a ddwetai a dwedud hefyd yn ddarlleniadau posibl yma ac yn ll. 25 isod.

17. air o athrod   Yn Pen 49 (ni nodir amrywiad yn Wy 2) ceir air oer ethrod (ffurf amrywiol ar athrod yw ethrod, gw. GPC 1255), ond ni rydd hynny gystal ystyr ac mae'r llawysgrifau eraill yn gryf o blaid air o athrod.

  Gellid cyfri'r llinell hon yn enghraifft o gynghanedd groes o gyswllt (CD 159) ond diau mai yr hyn a geir yw un r yn ateb dwy neu r wreiddgoll.

20. od gwn   Ar yr ymadrodd hwn ac iddo'r ystyr 'indeed, truly, assuredly, surely', gw. GPC 2612.

23. Pe rhôn ym, pe rhin amwyll   Darlleniad GDG yw Pei ... pei, ond mae'r llawysgrifau pwysig yn unfryd o blaid Pe ... pe ... Ond gan fod John Davies wedi digwygio pai LlGH i pe yn Pen 49 (gw. 126.13n), mae'n bosibl mai pei oedd yn LlGH. Y ffurf pei sy'n arferol mewn Cymraeg Canol (GMW 243). Ar yr ymadrodd pei rhôn, gw. GMW 243 a GPC 2785 d.g. perhôn lle y nodir y gellir ei ddefnyddio i '[g]yflwyno cymal be[rfenw] neu ragenw ynghyd â'r cys[ylltair] a5 neu'r ardd[odiad] â6' (cf. ll. 25).

25. doedyd   Gw. WG 54 a cf. ll. 16n uchod.

26. Yrhwng ynfydrwydd a rhus   Saif testun LlGH (ar sail Pen 49 a Wy 2) ar ei ben ei hun yma: (Y) Rhwng ynfydrwydd r(h)wydd r(h)us. Ond ceir gwell ystyr o dderbyn darlleniad y Vetustus (H 26) a'r llawysgrifau pwysig eraill.

27. buchedd Gybi   Sant yw Cybi (bl. canol y 6g., mae'n debyg) y credid ei fod yn wreiddiol o Gernyw ond a goffeir mewn amryw fannau yng Nghymru. Ei brif ganolfan oedd Caergybi ym Môn, a chadwyd dwy fuchedd iddo a gyfansoddwyd yn Lladin yn y 12g. Gw. ymhellach LBS ii, 202–15 a WCD 159–61 a cymh. 8.3 a 52.39.

28. na ddlÿud di   Darlleniad GDG yw na ddylyud di. Ceir y ffurf ferfol mewn (d)dl- yn Pen 49 (na ddlyit ti). Mae'r Vetustus (H 26) a'r rhan fwyaf o'r llawysgrifau eraill o blaid terfyniad sy'n cynnwys -u–. Sylwer bod na ddlÿut ti yn ddarlleniad posibl hefyd.

30. Gomedd croesan o gymod   Ymddengys mai darlleniad sy'n cyfateb i croesan a oedd yn y Vetustus (H 26: croysan) a croesan hefyd yw darlleniad Ll 120; ffurf M 146 yw krevsan. Ond ymddengys fod croesan yn air dieithr i rai o leiaf o'r copïwyr. Ceir y ffurf gyfatebol o ran ystyr dy fardd yn Pen 49 (ni nodir amrywiad yn Wy 2) a'r ffurf debyg o ran sain cusan yn Ll 163, LlGC 560, LlGC 5283, M 212, Wy 2 ac mewn cywiriad yn H 26. Ar croesan, math o fardd iselradd, gw. DGIA 6, 8–11, 14, 18–20, 24–6. Ar gomedd, gw. GPC 1458 lle y nodir 'pan fo'r person a omeddir yn wrthrych, cyff[redin] yw dynodi'r hyn a omeddir â chystrawen gyda'r ardd[odiad] o'.

32. Fy meddwl   Dyma ddarlleniad y rhan fwyaf o'r llawysgrifau, gan gynnwys Pen 49 (o LlGH) a H 26 (o'r Vetustus). Os felly, mae'r f yma'n lled-lafarog fel yn ll.1. Ond gellid dilyn Ll 120 a LlGC 560 a darllen 'Y meddwl. Cf. isod ll. 55n.

34. Nid felly gwnaeth   Darlleniad GDG yw Felly y gwnaeth, ac felly gwnaeth yw darlleniad LlGC 5283, ond mae'r llawysgrifau pwysig eraill yn gwbl glir o blaid darlleniad y testun. Yr ergyd yma yw fod y ferch wedi sorri yn erbyn y bardd, yn groes i'r hyn a wnaeth Iesu wrth faddau i Longinus (ll. 35) a'r Iddewon.

Mab maeth Mair   Sef yr Iesu.

35–6. ... y dall ... / ... o'r Iddewon   Cyfeiriad at y chwedl apocryffaidd am Longinus, gŵr y credid iddo wanu ystlys Crist ar y groes. Ceir rhagor o fanylion am yr hanes yn GIBH 135 (7.45n). Nodir yno: 'Trawsenwad am Iddewiaeth oedd Longinus, a'r hyn a ystyrid gan Gristnogion yr Oesoedd Canol yn ddiffyg ffydd yn y grefydd honno a barodd ei chyfrif yn "ddall". Yn ôl y chwedl, pan wanodd Longinus ystlys Crist syrthiodd Ei waed i'w lygaid ac adfer ei olwg... Pwysigrydd Longinus fel topos yn y cerddi am ddioddefaint Crist yw ei fod yn symbol o iachâd a maddeuant.' Mae'r cysylltiad agos rhwng Longinus ac Iddewiaeth yn cyfiawnhau'r darlleniad o'r Iddewon, er y gellid hefyd ddarllen a'r Iddewon ar sail Pen 49, H 26, a M 212.

37. A'i gorug   Mae'r rhagenw mewnol proleptig yma'n cyfeirio ymlaen at Glwyfo'i fron yn y llinell nesaf. Ar y gystrawen, gw. GMW 56–7 a cf. isod ll. 43n. Ffurf 3 un.grff. y ferf gwneuthur, gwneud yw gorug (GMW 130), ac felly mae'n gyfystyr â'r ffurf (g)wnaeth a geir isod ll. 45.

39. syll di hefyd   Dyma ddarlleniad Pen 49 (a sullt hefyd a geir yn Wy 2 heb amrywiad o LlGH), ond mae cryn amrywio yn y llawysgrifiau o ran yr ymadrodd hwn. Mae syllt yn amrywiad posibl ar syll, sef ffurf 2 un.grch. y ferf syllu, gw. GPC 3384, ac mae'n debyg fod ôl hynny i'w weld yn rhai o'r copïau. Mae'n amlwg hefyd fod darlleniadau rhai copïau (Ll 163, LlGC 560 a LlGC 5283 yn fwyaf amlwg) wedi'u dylanwadu gan yr enw 'Esyllt'.

41. gwyrf   Ffurf amrywiol ar gwyryf, gw. WG 178, 217.

42. Anna   Mam y Forwyn Fair yn ôl y traddodiad apocryffaidd, gw. 3.4n.

43. geinem   Anodd bod yn gwbl sicr o ddarlleniad LlGH, gan mai Geinen a geir yn Pen 49 a gainwen yn Wy 2. Ceir geinwen yn Ll 163, LlGC 560 a M 146, a geinein yn M 212 (?camgymeriad am geinem). Derbyniwyd darlleniad y Vetustus (Ba (M) 17, H 26 a Ll 120), sef geinem, sydd yn agos iawn at Geinen Pen 49.

pan ei goganwyd   Rhagenw mewnol proleptig yw'r ei yma sy'n cyfeirio ymlaen at Siesu yn y llinell nesaf. Ar y gystrawen, gw. GMW 56–7 a cf. uchod ll. 37n.

44. Siesu   Ymddengys fod John Davies wedi safoni yma wrth arddel y ffurf Iesu yn Pen 49 (ni nodir amrywiad yn Wy 2). Darlleniad GDG yw Siesus, ond Siesu yw ffurf y Vetustus (Ba (M) 17 a H 26) a'r llawysgrifau sy'n perthyn yn agos iddo. Gwelir dylanwad y Saesneg ar y ffurfiau hyn, a dywed OED2 d.g. Jesus mai'r ffurf Iesu (Jesu) a oedd yn gyffredin mewn Saesneg Canol, a bod y ffurf Iesus (Jesus) yn anarferol cyn y 16g. O'r ganrif honno y daw'r llawysgrif gynharaf sydd o blaid Siesus, sef Ll 163.

blaid o Sioseb lwyd   Mae cryn amrywio o ran gair cyntaf yr ymdrodd hwn: Vetustus (Ba (M) 17), H 26 a Ll 120): blas, M 146 a M 212: o blas, Ll 163: las. Yn Wy 2 rhan gyntaf y llinell yw eisie plaid, ac yn LlGC 560 sias heb le. Ymddengys mai darlleniad blaid (sef darlleniad Pen 49) sy'n rhoi'r ystyr orau, a cheir peth cefnogaeth i'r ffurf honno yn Wy 2. Mae Sioseb yn ffurf ar enw Joseff, gŵr y Forwyn Fair, gw. T.H. Parry-Williams, The EnglishElementinWelsh: a study of English loan-words in Welsh (London, 1923), 227. Gall llwyd yma fod yn gyfeiriad at bryd a gwedd Joseff, neu'n fwy tebygol at ei sancteiddrwydd.

46. daly   Sylwer mai yn Ll 120 yn unig o blith y llawysgrifau pwysig y ceir daly yn hytrach na dal.

47–50. Nid oes bechawd ... / Marwol mwy ei oferwaith, / No thrigo ... / Mewn llid, eiliw Enid lân   Ar dreiglo goddrych amhendant ar ôl nid oes, gw. TC 282–3, ond sylwer mai Nid oes pechawd sydd yn nifer o'r llawysgrifau, gan gynnwys y Vetustus (Ba (M) 17 a H 26). Cyfeiriad sydd yma at lid (neu ddicter), un o'r Saith Pechod Marwol, gw. ymhellach GIBH 125 (5.15n). Mae cryn amrywio yn y llawysgrifau o ran y frawddeg hon, ond dilynwyd darlleniad GDG yma. Ni cheir llawer o synnwyr o'r darlleniad a awgrymir gan grŵp y Vetustus: Nid oes pechawd ... / Marw(f)ol mawr i oferwaith /  thrigo ... / Mewn llid ... (Mae marfol yn ffurf amrywiol ar marwol.) Ond mae darlleniad Ll 120 o blaid y frawddeg fel y'i ceir yn y testun. Mae darlleniad M 146 o blaid Marfol mwy ei oferwaith /  thrigo sydd yn debyg iawn i ddarllenaid Ll 120 a'r testun ond bod yr n wreiddgoll yn ll. 49 yn eisiau. Gellid esbonio'r darlleniad a awgrymir gan Pen 49 ar gyfer ll. 48 (Nid oes bechawd ... / Mor farwol mawr oferwaith /  thrigo ...) fel ymdrech i ateb yr f sydd yn ail hanner ll. 48 ac wedyn i ateb r berfeddgoll, neu fel ymdrech i wneud synnwyr o fersiwn o'r frawddeg sydd ag  thrigo yn ll. 49, fel yn y Vetustus a M 146. Diau fod yr amrywio rhwng â ac no/na yn ll. 49 yn gysylltiedig â'r amrywio mor/mwy yn ll. 48. Darlleniad arall posibl i'r llinellau hyn fyddai: Nid oes bechawd ... / Mor farwol, mwy oferwaith, /  thrigo ... / Mewn llid, eiliw Enid lân. Y darlleniad a awgrymir gan LlGH (ar sail Pen 49 a Wy 2) ar gyfer ll. 50 yw Yn dy lid, ail Enid lân, ond mae'r llawysgrifau pwysig eraill oll o blaid darlleniad y testun a'r darlleniad hwnnw sy'n gweddu orau yma. Merch Yniwl Iarll a gwraig Geraint fab Erbin oedd Enid, a'r 'uorwyn gloduoraf', gw. Robert L. Thomson (gol.), Ystorya Gereint uab Erbin (Dublin, 1997), 19 (ll. 546). Gw. hefyd TYP3 349–50 a'r nodyn cefndir uchod.

47. fethlgnawd faith   Darlleniad GDG yw methlgnawd maith, gan ddilyn Ll 120, M 146 a M 212. Nodir yr enghraifft hon o methlgnawd yn GPC 2448 yn yr ystyr 'trachwant, chwant y cnawd (sy'n maglu)' a chyfeirir yno hefyd at yr enghraifft a geir yn 48.21–2 Nid rhaid, ddelw euraid ddilyth, / Yt ofn pechawd, fethlgnawd fyth. Ond y darlleniad a awgrymir gan y Vetustus (ar sail Ba (M) 17, H 26 a'r amrywiadau yn Pen 49) a LlGC 560 yw fethlgnawd faith. Mae'n anodd bod yn sicr ynglŷn â darlleniad LlGH—ceir feddgnawd faith yn Pen 49 a fethgnawd faith yn Wy 2. Ond mae'n debycach mai fethgnawd faith (?camgymeriad am fethlgnawd faith) a oedd yn LlGH o gofio am duedd John Davies i ddiwygio darlleniadau, a fethgnawd faith hefyd yw darlleniad Ll 163. Ymddengys felly fod LlGH yn ogystal â'r Vetustus yn tueddu i ffafrio fethlgnawd faith a hwnnw yw'r darlleniad anos. Gan hynny, dealler methlgnawd mewn ystyr ansoddeiriol 'yn maglu'r cnawd'. Gall maith olygu 'trist, chwerw', a nodir yn GPC 2325 y gall fod â grym enwol. Felly aralleiriwyd 'chwerwder'.

55. 'Y myd   Mae LlGH (Pen 49 ac amrwyiadau Wy 2) a'r Vetustus (Ba (M) 17 a H 26) a gweddill y llawysgrifau pwysig (ac eithrio Ll 163) yn cytuno ar golli'r f yma. Cf. uchod ll. 32n.

56. diledach   Darlleniad LlGH (ar sail Pen 49 ac amrywiadau Wy 2) yw diwladaidd, sydd hefyd yn bosibl.