33 Ni chad om penn absennair
34 Nid velly gwnaeth mab maeth Mair
35 Am dall diammau don
36 Ar y ddayar ar iddeon
37 Ai gorne vn chwedl girad
38 Clwyfo i vron a glaif o vrad
39 Swllt hoywvardd sylly hefyd
40 Maint vu drugaredd vy myd
41 Morwyn wyryf mureinffurf ffydd
42 Merch Anna mawr i chynydd
43 Geinem pam i goganwyd
44 Siessu blas o Sioseb lwyd
45 Ni wnayth ni bu anoythair
46 Na dal gwg na dial gair
47 Nid oys pechawd vethlgnawd vaith
48 Marwawl mawr i overwaith
49 A thrigo iaith ddygrogan
50 Mewn llid eiliw enid lan
51 Deuliw r haul da loyr yr hawc
52 Dilidia r dyn dyledawc
53 Na vydd tec ywr krefydd tau
54 Grynnwraidd dros gryn eirieu
55 [ ]y myd wrth dy brydydd mwy
56 Diledach deol ydwy
57 [ ] aur kymer ddiheurad
58 [ ]c awn lle ni ellir gwad
59 [ ]al vaswedd ith weddi
60 [ ]mod liw manod a mi
dd ap gwilm