Moliant Ieuan Llwyd ab Ieuan Fwyaf
Mae'n fis Mai, mae beirdd-adar y traeth yn wych,
mae dail gwyrdd mân ar y goedwig, gweadwaith coed,
treiddgar a chlòs ei gwead yw cân astrus gan
aderyn,
4 myfi a'i gwnaeth yn enwog, mae hiraeth arnaf.
Nid am nad wyf yn cael anrhegion newydd a maeth
ym Môn, darpariaeth lawen,
nid oes prinder gwleddau, gwasanaeth agored i'r byd,
8 heb un annwyl [yr wyf], meddyliau tristwch.
Mae byrddau yn bentyrrau, ysbail i feirdd,
mae gosgordd hardd eu cwrteisi,
[ond] yr hyn na chefais mohono, Duw sanctaidd, oedd gwasanaeth
serch,
12 nid [chwant] am gyfarch merch, [ond] chwant mawr sy'n
waeth:
[y ffaith] na welaf Ieuan, magwraeth berffaith,
[ac] na wêl yntau fi, arglwydd ucheldras.
Fe af ato, undod serchus iawn,
16 nid wyf yn ddewr hebddo, cynhaliaeth ddibryder.
Gwyllt wyf tra fy mod i'n gweld cyflawnder ieuenctid,
trodd darpariaeth gwin yn wenwyn ynof,
ar ôl etifeddiaeth dychryn, yn greulon y mae
barddoniaeth
20 yn dod i mi yn sgil wylo cyhoeddus.
Cae gwyrdd yw'r lle y mae, fe wnaf fi ei gyhoeddi,
meddiant chwaraegar, gwir garwriaeth,
tir dedwydd cryf lle tyf lletygarwch hiraeth
24 ac egin coed disglair, tiriogaeth hyfryd.
Ei arglwyddiaeth ef sydd oruchaf yn fy ngolwg i,
hebog o linach Llawdden, helwriaeth â hebogiaid.
Gwaredwr ydyw i feirdd, darparwr gwirodydd i gerddor,
28 arglwydd a garai adeg cerddoriaeth.
Gwas diog fyddaf ar fy ymweliad,
croesawr cyson yw'r arglwydd ysblennydd.
Ei un caethwas fyddaf, gwledd dda, y gwanwyn,
32 y gaeaf, yr hydref a'r haf maethlon.
Fe gadwai awdur yn dda, cadwraeth weddus,
mae'n arfer dymuno'n dda i mi, fe'm gwnaeth yn ddi-ofn.
Arfwisg wedi'i haddurno'n ddelltog sydd am geidwad brwydr ar dir
traeth brau y môr,
36 ceidwad dewr rhagorol [sy'n derbyn] gwrogaeth Saeson.
Ysbryd arglwydd hawdd ymbil arno,
rhydd luniaeth yn ddiarbed, medd pawb.
Mae'n croesawu ymwelwyr, ac yn rhoi gwisgoedd, ac yn
atgyfnerthu,
40 yr un yw ei arferion â rhai Huail, gwledd helaeth.
Pendefigaeth eiddgar a di-ofn,
diarbed, nid oes dyn arall mor wrol,
perffaith, ceidwad gwych, bwriad dewr a ffyrnig,
44 arglwydd ysblennydd di-fai a dwfn ei fonedd.
Arf da sy'n dychryn dynion, milwriaeth Llyr,
fe'm gwnaeth yn ddi-ofn, gofal da.
Mae fy nhad maeth yn wasgod amddiffynnol i mi
48 wedi'i rhwymo mor gadarn â phais ddur ddwbl, anrhydedd
mawr.