{ko: i ofyn kymod Morvydd}
1 Teg Vorvudd tegaû eûrvalch
2 tywyn haûl taer ar gaer galch
3 tal am dy wawd cyn toli
4 twyll y prydyddion wyti
5 tyfodd im bron gron o gred
6 dolûr dy anwadaled
7 rhai ath eilw y rhiain
8 a ddywaid vy enaid vain
9 ym na thrig poenedig poen
10 dy gariad deg igoroen
11 mwy nog ewyn gwyddyn gwiw
12 arol dwfr arial difriw
13 divawr sal hoen dwfr o sûd
14 a deuwell i gwrandawûd
15 dig ym glywed dy gymwyll
16 y dyn a ddywetai o dwyll
17 ar i rûthr air o athrod
18 degaû glaer no deg o glod
19 nid o'm bodd yr adroddwn
20 arnad aûr gariad od gwnn
21 dielw oserch deuliw y ser
22 daldal dy anwadalder
23 pe rhon ym pe rhin amwyll
24 mewn brwysgedd ty wylledd twyll
25 a dywedyd geir cellweirûs
26 y rhwng ynvydrwydd a rhûs
27 gwybydd er buchedd Gybi
28 ddeuliw tonn na ddylûti
29 gem aûr glan gymar y glod
30 gommedd croysan cusan o gymmod
31 gwen gwybydd da vreisgwydd vry
32 vy meddwl o'm gommeddy
33 ni chad o'm pen absenair
34 nid velly gwnaeth mab maeth Mair
35 am y dall diammaû don
36 ar y ddayar ar Iûddeon
37 ai gorûg vv chwedl girad
38 glwyfo i vron a glaif o vrad
39 swllt hoywvardd ysyllt hevyd
40 maint vv drugared vy myd
41 [338] morwyn wyrf murain fyrf fydd
42 merch Anna mawr i chynnydd
43 geinemm pan igoganwyd
44 Siesû blas o Sioseb lwyd
45 ni wnaeth ni bû anoethair
46 na dal gwn na dial gair
47 nid oes pechawd vethlgnawd vaith
48 marvawl mawr i overwaith
49 a thrigo iach ddarogan
50 mewn llid eiliw Enid lan
51 deûliw'r haûl da loer yrrhawg
52 dilidia'r dyn dyledawg
53 na vydd teg yw'r crefydd taû
54 grynnwraidd dros grynn eiriaû
55 y myd wr dy brydydd mwy
56 diledach deol ydwy
57 vy eur cymer ddiheûrad
58 ag iawn lle ni ellir gwad
59 cynnal vaswedd ith weddi
60 cymod liw manod a mi
{Dauid ap Gwilim}