{I forfydd}
1 Teg forfudd tegau eurfalch
2 tywyn haul daer ar gaer galch
3 Tal am dy wawd cyn toli
4 twyll y prydyddion wyt ti
5 Tyfodd i'm bronn gronn o gred
6 dyolur dy anwadaled
7 A rhai a'th eilw y rhiain
8 a ddywaid fy enaid fain
9 Na thrig bar yw oerddig boen
10 dy gariad deg ei goroen
11 mwy nog ewyn gwywddyn gwiw
12 ar ol dwfr arial difriw
13 di fawr sal hoen dyfr o sud
14 deu-well y gwrandawud
15 dig im glywed dy gymwyll
16 Y dyn a ddoetai o dwyll
17 Ar ei ruthr air o athrod
18 degau glaer no dec o glod
19 Nid o'm bodd yr adroddwn
20 Arnad aur gariad od gwn
21 di elw o serch deu liw ser
22 daldal dy anwadalder
23 pe rhon ym pe rhin amwyll
24 mewn brwysgedd tywylledd twyll
25 A doedyd gair cellweirus
26 Y rhwng ynfydrwydd a rhus
27 Gwybydd er buchedd Gybi
28 ddeu liw tonn na ddylut ti
29 Gem aur glan gymar y glod
30 Gommedd croesan o gymmod
31 Gwenn gwybydd dann freisgwydd fry
32 Y meddwl om gomeddy
33 Ni chad o'm pen absennair
34 Nid felly gwnaeth mab maeth Mair
35 Am y dall di amau don
36 ar ddaear or Iddewon
37 Ai goruc bu chwedl girad
38 glwyfo ei fron â glaif o frad
39 Swllt hoewfardd syllt di hefyd
40 Maint fu drugaredd fy myd
41 Morwyn wyrf mirain ffyrf ffydd
42 merch Anna mawr ei chynnydd
43 Gein-Em pam ei goganwyd
44 Siesu blas o Sioseb lwyd
45 Ni wnaeth ni bu anoethair
46 Ni ddaly gwg na
ddial gair
47 Nid oes bechawd methlgnawd maith
48 Marwol mwy ei oferwaith
49 No thrigo iaith ddarogan
50 mewn llid eiliw Enid lan
51 Deuliw 'r haul da loer y rhawg
52 dilidia 'r dyn dyledawg
53 Na fydd teg yw'r crefydd tau
54 grynnwraidd dros grynn eiriau
55 Y myd wrth dy brydydd mwy
56 diledach deoladwy
57 fy aur cymer ddiheurad
58 ac iawn lle ni ellir gwad
59 Cynnal faswedd ith weddi
60 Cymmod liw manod a mi
dd' ap Gwilym