1 Teg forfudd tegau fawrfalch
2 Tywyn haul daer ar gaer galch
3 Tal am fy-ngwawd cyn toli
4 Twyll y prydyddion wyt ti
5 Tyfodd i'm bron gron o gred
6 Dolur dy anwadaled
7 A rhai a'th eilw y rhiain
8 A ddywaid fy enaid fain
9 Na thrig im pendefig poen
10 Dy gariad deg ei goroen
11 Mwy nac ewyn gwynddyn gwiw
12 Ar ol dwfr arial difriw
13 Difawr sal hoen dwfr o sut
14 [73r] Dauwell i'm gwarandawut
15 Dig i'm weled dy-gymmwyll
16 Y dyn a ddywettai o dwyll
17 Ar ei ruthr air oer ethrod
18 Degau glaxer na deg o glod
19 Nid o'm bodd yr adroddwn
20 Arnad ôd gawad ot gwnn
od
21 Dielw o serch dauliw ser
22 Daldal dy anwadalder
23 Pe ron i'm pe rhin amwyll
24 Mewn brwysgedd tywylledd twyll
25 A dywedyd gair cellwairus
26 Y Rhwng ynfydrwydd rwydd rys a rhus
27 Gwybydd er buchedd Gybi
28 Ddauliw tonn na ddlyit ti
29 Gem aur glaer gymmar y glod
30 Gomedd dy fardd o gymmod
31 Gwen gwybydd dan fraiscwydd fry
32 fy meddwl o'm gommeddy
33 Ni chad o'm pen absenair
34 Nid felly gwnaeth mab maeth mair
35 Am y dall diamau don
36 Ar y ddayar a'r Iddewon
37 [73v] Ai gorug bu chwedl girad
38 glwyfo ei fron a glaif o frad
39 Swllt hoywfardd syll di hefyd
40 maint fu drugaredd fy myd
41 morwyn wyrf mirain ffyrf ffydd
42 merch Anna mawr ei chynnydd
43 Gainenm
pan y goganwyd
44 Iesu blaid o sioseb lwyd
45 Ni wnaeth ni bu annoethair
46 Na dal gwg na dïal gair
47 Nid oes bechawd feddfethlgnawd faith
48 Mor farwol mawr oferwaith
49 A thrigo mawr uthr ogan
50 Yn dy lid ail enid lan
51 Deuliw'r haul da loer yrhawg
52 Dilidia'r dyn dyledawg
53 Na fydd teg yw'r crefydd tau
54 grynwraidd dros d
gryneiriau
55 Y myd wrth dy brydydd mwy
56 Diwladaiddledach deol ydwy
57 f'aur cymmer ddiheurad fy aur
58 [74r] Ac iawn lle ni aller gwad
59 Cynnal faswedd i'th weddi
60 Cymod liw manod a mi
Da. ap Glm
Nodiadau
Exr per vetustum