â â â Dan y Bargod
1â â â  Clo a roed ar ddrws y ty,
2â â â  Claf wyf o serch, clyw fyfy.
3â â â  Dyred i'th weled, wiwlun,
4â â â  Er Duw hael, aro dy hun.
5â â â  Geirffug ferch, pam y gorffai?
6â â â  Gorffwyll, myn Mair, a bair bai.
7â â â   Taro, o'm annwyd dyrys, 
8â â â  Tair ysbonc, torres y bys
9â â â  Cloëdig, un clau ydoedd,
10â â â  A'i clywewch chwi? Sain cloch oedd.
11â â â  Morfudd, fy nghrair diweirbwyll,
12â â â  Mamaeth tywysogaeth twyll,
13â â â  Mau wâl am y wialen
14â â â  Â thi, rhaid ym weiddi, wen.
15â â â  Tosturia fy anhunglwyf,
16â â â  Tywyll yw'r nos, twyllwr nwyf.
17â â â  Adnebydd flined fy nhro,
18â â â  Wb o'r hin o'r wybr heno!
19â â â  Aml yw'r rhëydr o'r bargawd, 
20â â â  Ermig nwyf, ar y mau gnawd.
21â â â   Nid mwy y glaw, neud mau glwyf, 
22â â â  No'r ôd dano yr ydwyf.
23â â â  Nid esmwyth hyn o dysmwy,
24â â â  Ni bu boen ar farwgroen fwy
25â â â  Nog a gefais drwy ofal,
26â â â  Ym Gwr a'm gwnaeth, nid gwaeth gwâl.
27â â â  Ni bu'n y Gaer yn Arfon
28â â â  Geol waeth no'r heol hon.
29â â â  Ni byddwn allan hyd nos,
30â â â  Ni thechwn ond o'th achos.
31â â â  Ni ddown i oddef, od gwn,
32â â â  Beunoeth gur be na'th garwn.
33â â â  Ni byddwn dan law ac ôd
34â â â  Ennyd awr onid erod.
35â â â  Ni faddeuwn, gwn gyni,
36â â â  Y byd oll oni bai di.
37â â â   Yma ydd wyf trwy annwyd, 
38â â â  Tau ddawn, yn y ty ydd wyd.
39â â â  Amau fydd gan a'm hirglyw
40â â â  Yma, fy aur, ymy fyw.
41â â â  Yna y mae f'enaid glân
42â â â  A'm ellyll yma allan.
43â â â Ymaith fy meddwl nid â, 
44â â â  Amwyll a'm peris yma.
45â â â  Amod â mi a wneddwyd,
46â â â  Yma ydd wyf, a mae 'dd wyd?