| Dan y Bargod | |
| Clo a roed ar ddrws y tŷ, | |
| Claf wyf o serch, clyw fyfy. | |
| Dyred i'th weled, wiwlun, | |
| 4 | Er Duw hael, aro dy hun. |
| Geirffug ferch, pam y gorffai? | |
| Gorffwyll, myn Mair, a bair bai. | |
| Taro, o'm annwyd dyrys, | |
| 8 | Tair ysbonc, torres y bys |
| Cloëdig, un clau ydoedd, | |
| A'i clywewch chwi? Sain cloch oedd. | |
| Morfudd, fy nghrair diweirbwyll, | |
| 12 | Mamaeth tywysogaeth twyll, |
| Mau wâl am y wialen | |
| Â thi, rhaid ym weiddi, wen. | |
| Tosturia fy anhunglwyf, | |
| 16 | Tywyll yw'r nos, twyllwr nwyf. |
| Adnebydd flined fy nhro, | |
| Wb o'r hin o'r wybr heno! | |
| Aml yw'r rhëydr o'r bargawd, | |
| 20 | Ermig nwyf, ar y mau gnawd. |
| Nid mwy y glaw, neud mau glwyf, | |
| No'r ôd dano yr ydwyf. | |
| Nid esmwyth hyn o dysmwy, | |
| 24 | Ni bu boen ar farwgroen fwy |
| Nog a gefais drwy ofal, | |
| Ym Gŵr a'm gwnaeth, nid gwaeth gwâl. | |
| Ni bu'n y Gaer yn Arfon | |
| 28 | Geol waeth no'r heol hon. |
| Ni byddwn allan hyd nos, | |
| Ni thechwn ond o'th achos. | |
| Ni ddown i oddef, od gwn, | |
| 32 | Beunoeth gur be na'th garwn. |
| Ni byddwn dan law ac ôd | |
| Ennyd awr onid erod. | |
| Ni faddeuwn, gwn gyni, | |
| 36 | Y byd oll oni bai di. |
| Yma ydd wyf trwy annwyd, | |
| Tau ddawn, yn y tŷ ydd wyd. | |
| Amau fydd gan a'm hirglyw | |
| 40 | Yma, fy aur, ymy fyw. |
| Yna y mae f'enaid glân | |
| A'm ellyll yma allan. | |
| Ymaith fy meddwl nid â, | |
| 44 | Amwyll a'm peris yma. |
| Amod â mi a wneddwyd, | |
| Yma ydd wyf, a mae 'dd wyd? | |