Dan y Bargod
Rhoddwyd clo ar ddrws y ty,
'rwyf yn glaf o serch, clyw finnau.
Tyrd imi gael dy weld, yr eneth luniaidd,
4 er mwyn Duw hael, ceisia wrthsefyll dy gwsg.
Y ferch gelwyddog, pam y dylai hwnnw orchfygu?
Myn Mair, mae diffyg [o'r fath] yn peri gorffwylledd.
Trewais, oherwydd fy nwyd gwyllt,
8 dair ergyd, torrodd y glicied
gloëdig, un swnllyd oedd hi,
a glywech chi hi? Swn cloch ydoedd.
Morfudd, f'anwylyd ddiwair ei hanian,
12 mamaeth tywysogaeth twyll,
mae fy ngwâl am wialen [y pared]
â thi, rhaid imi weiddi, ferch.
Tosturia wrth ddolur fy anhunedd,
16 tywyll yw'r nos, twyllwr serch.
Sylweddola mor flin yw fy ffawd,
och o'r tywydd garw a ddaw o'r wybren heno!
Niferus yw'r rhaeadrau o'r bargod,
20 offeryn traserch, ar fy nghnawd i.
Nid mwy yw'r glaw, dyma fy nolur,
na'r eira yr wyf oddi tano.
Nid cyfforddus mo'r cryndod hwn,
24 ni fu ar groen dideimlad boen fwy
nag a gefais drwy bryder,
myn y Gwr a'm gwnaeth, nid oes gwâl waeth.
Ni fu yn y Gaer yn Arfon
28 garchar gwaeth na'r heol hon.
Ni fyddwn allan ar hyd y nos,
nid ymguddiwn ond o'th achos.
Ni ddown i ddioddef, yn wir,
32 boen beunos pe na bawn yn dy garu.
Ni fyddwn dan law ac eira
am un ennyd ond er dy fwyn di.
Ni rown y gorau ('rwy'n gyfarwydd â chaledi)
36 i'r byd oll oni bai amdanat ti.
Yma yr wyf oherwydd nwyd,
ffodus wyt ti, yn y ty yr wyt.
Bydd hi'n amheus gan y sawl sy'n fy nghlywed
40 yma, fy aur, a fyddaf byw.
Yno y mae fy enaid glân
a'm drychiolaeth allan yma.
Nid â fy meddwl ymaith,
44 gwallgofrwydd a barodd imi fod yma.
Gwnaethost gyfamod â mi,
yma'r wyf, a ble'r wyt ti?