| Dan y Bargod | |
| Rhoddwyd clo ar ddrws y tŷ, | |
| 'rwyf yn glaf o serch, clyw finnau. | |
| Tyrd imi gael dy weld, yr eneth luniaidd, | |
| 4 | er mwyn Duw hael, ceisia wrthsefyll dy gwsg. |
| Y ferch gelwyddog, pam y dylai hwnnw orchfygu? | |
| Myn Mair, mae diffyg [o'r fath] yn peri gorffwylledd. | |
| Trewais, oherwydd fy nwyd gwyllt, | |
| 8 | dair ergyd, torrodd y glicied |
| gloëdig, un swnllyd oedd hi, | |
| a glywech chi hi? Sŵn cloch ydoedd. | |
| Morfudd, f'anwylyd ddiwair ei hanian, | |
| 12 | mamaeth tywysogaeth twyll, |
| mae fy ngwâl am wialen [y pared] | |
| â thi, rhaid imi weiddi, ferch. | |
| Tosturia wrth ddolur fy anhunedd, | |
| 16 | tywyll yw'r nos, twyllwr serch. |
| Sylweddola mor flin yw fy ffawd, | |
| och o'r tywydd garw a ddaw o'r wybren heno! | |
| Niferus yw'r rhaeadrau o'r bargod, | |
| 20 | offeryn traserch, ar fy nghnawd i. |
| Nid mwy yw'r glaw, dyma fy nolur, | |
| na'r eira yr wyf oddi tano. | |
| Nid cyfforddus mo'r cryndod hwn, | |
| 24 | ni fu ar groen dideimlad boen fwy |
| nag a gefais drwy bryder, | |
| myn y Gŵr a'm gwnaeth, nid oes gwâl waeth. | |
| Ni fu yn y Gaer yn Arfon | |
| 28 | garchar gwaeth na'r heol hon. |
| Ni fyddwn allan ar hyd y nos, | |
| nid ymguddiwn ond o'th achos. | |
| Ni ddown i ddioddef, yn wir, | |
| 32 | boen beunos pe na bawn yn dy garu. |
| Ni fyddwn dan law ac eira | |
| am un ennyd ond er dy fwyn di. | |
| Ni rown y gorau ('rwy'n gyfarwydd â chaledi) | |
| 36 | i'r byd oll oni bai amdanat ti. |
| Yma yr wyf oherwydd nwyd, | |
| ffodus wyt ti, yn y tŷ yr wyt. | |
| Bydd hi'n amheus gan y sawl sy'n fy nghlywed | |
| 40 | yma, fy aur, a fyddaf byw. |
| Yno y mae fy enaid glân | |
| a'm drychiolaeth allan yma. | |
| Nid â fy meddwl ymaith, | |
| 44 | gwallgofrwydd a barodd imi fod yma. |
| Gwnaethost gyfamod â mi, | |
| yma'r wyf, a ble'r wyt ti? | |