Nodiadau: 98 - Dan y Bargod

GDG 89

'Cywydd y Clo' yw teitl y gerdd hon i Forfudd yn y fersiwn sy'n deillio o Lyfr Wiliam Mathew. Mae'r sefyllfa a ddisgrifir, a'r carwr dioddefus yn sefyll dan bared y ferch liw nos yn erfyn am fynediad, yn drawiadol o debyg i genre Ewropeaidd poblogaidd y serenâd, fel y mae cywydd 'Y Wawr' (69) yn cyfateb i genre y wawrgan. Ymddengys fod adlais eironig o'r serenâd hefyd yn awdl farwnad Dafydd i'w ewythr Llywelyn ap Gwilym, lle y mae'n galw arno uwch ei fedd i agor ei dŷ i'w nai fel o'r blaen (6.5–8). Mae gormodiaith hunanddychanol y disgrifiad ohono'n rhynnu dan eira a than raeadrau'r bargod yn nodweddiadol o bersona barddol Dafydd, ac mae modd darllen y cywydd fel parodi ar genre canoloesol cyfarwydd. Dylid nodi, fodd bynnag, fod y rheidrwydd i ddioddef tywydd gaeafol er mwyn y ferch ymhlith confensiynau'r serenâd fel y'i ceir yn y Roman de la Rose yn y drydedd ganrif ar ddeg ac mewn barddoniaeth Ffrangeg ddiweddarach. Yr un yw tynged Dafydd yng nghywyddau 'Y Rhew' (54) a 'Caru yn y Gaeaf' (55), ond ei fod yn ymroi i ddyfalu'r rhew yn y cywyddau hynny dros nifer o gwpledi. Ar ddioddefaint y bardd a mudandod didostur y ferch y mae'r pwyslais yma. Cymharol isel yw cyfran y gynghanedd sain ac mae oddeutu traean o'r llinellau yn ddigynghanedd, ond ceir defnydd celfydd o gymeriad llythrennol a chynganeddol, yn arbennig yn y cwpledi clo.

Am ymdriniaethau â'r cywydd mewn perthynas â genre y serenâd ac â chywyddau eraill sy'n disgrifio ymweliadau â chartref merch liw nos, gw. David Johnston, 'The Serenade and the Image of the House in the Poems of Dafydd ap Gwilym', CMCS 5 (Summer 1983), 1–19; Edwards, DGIA 157–75.

Tri fersiwn sylfaenol o'r cywydd sydd. Ceir testun cynnar yn Pen 54 (c. 1480), a chadwyd fersiwn Llyfr Wiliam Mathew yn Ll 6 a Pen 49 ac mewn pump o lawysgrifau Llywelyn Siôn. Ceir fersiwn y Vetustus yn H 26, ac ar ffurf amrywiadau yn nhestun Pen 49. Y Vetustus hefyd yw ffynhonnell anuniongyrchol Ll 186, CM 129 a thestun lled greadigol Wy 2 a'r copïau a ddeilliodd ohono. I'r un traddodiad y perthyn testun Bl e 1 a'r copïau a ddeilliodd o'r llawysgrif honno. Fersiwn LlWM yw'r llawnaf o'r tri, ac mae'r golygiad yn dilyn trefn y llinellau yn y fersiwn hwnnw. Yr un yw'r drefn yn fersiwn y Vetustus ond fod 23–4 a 27–8 o chwith a'r naill gwpled yn dilyn y llall, ac mae pum cwpled yn eisiau, sef 15–18, 21–22, 25–6 a 35–6. Mae pedwar cwpled yn eisiau yn nhestun Pen 54, sef 17–18, 21–22, 25–6 a 39–40, ac mae trefn y cwpledi yn wahanol i'r ddau fersiwn arall yn llau. 15–36. Fodd bynnag, cynhwyswyd yn y golygiad y cwpled ychwanegol 41–2, a geir yn Pen 54 ac yn fersiwn y Vetustus fel ei gilydd. Ambell dro mae testun Pen 54 yn cyfateb i LlWM, dro arall i'r Vetustus, ond mae'n cynnwys rhai darlleniadau unigryw (e.e. 2, 4, 30, 43) nad ydynt ar y cyfan yn rhagori ar y fersiynau eraill.

Cynghanedd: croes 15 ll. (32.5%), traws 8 ll. (17.5%), sain 8 ll. (17.5%), llusg 1 ll. (2%), digynghanedd 14 ll. (30.5%).

2. o serch   Darlleniad unigryw Pen 54, vy chwayr, a fabwysiadwyd yn GDG, ond mae'r Vetustus a LlWM yn gytûn yma.

4. aro dy hun   Darlleniad y Vetustus. Fe'i cefnogir i raddau gan erod dy hun LlWM, lle y mae'r ystyr yn anfoddhaol, a'r gynghanedd hefyd gan fod y ddwy d yn caledu'n t. Cymerir mai 'gwrthsefyll' yw ystyr y ferf aros yma, fel yng ngeiriau'r gŵr eiddig wrth Ddafydd yn 67.18 Aro fi heno fy hun. Naturiol, felly, yw cymryd mai hun yw goddrych y ferf gorfod 'gorchfygu' yn y llinell nesaf, yn hytrach na gorffwyll neu merch (Bromwich, SPDG 144 'Why should a lying girl prevail?'), gan mai yn yr ail berson unigol y cyfeirir ati yng ngweddill y gerdd. Mae hun y ferch yn gwrthgyferbynnu ag anhunglwyf y bardd yn ll. 15 isod, fel y mae hun heirddryw yn gwrthgyferbynnu â ni'm gad hun hawdd yn 144.21, 41. Unwaith eto, darlleniad Pen 54 a geir yn GDG, sef dangos dy hvn. Rhydd hynny synnwyr da a chynghanedd draws gydag r wreiddgoll. Mae'n bosibl mai ymgais i 'safoni' y gynghanedd a esgorodd ar ddarlleniad y Vetustus. Ar y llaw arall, mae'r un mor debygol mai camddeall hun 'cwsg' fel rhagenw a esgorodd ar ddarlleniad Pen 54.

5. gorffai   3 un. amherffaith dibynnol gorfod, cymh. 27.35 Ni wŷs o gorff na orffwyf.

7. o'm annwyd   Darlleniad LlWM, cymh. Pen 54 am annwyd. Vetustus drwy annwyd. O gofio'r amgylchiadau, diau fod yma ac yn ll. 37 isod chwarae ar ystyron y gair, sef 'natur' neu 'nwyd', ac 'oerni'. Diau fod amwysedd tebyg ym 'Marwnad Lleucu Llwyd' (sy'n adleisio genre y serenâd), GLlGMH 12.67–8 Yn bwhwman rhag annwyd / Ynghylch dy dŷ, Lleucu Llwyd; gw. Gilbert Ruddock, 'Amwysedd ac Eironi ym Marwnad Lleucu Llwyd', YB ix (1976), 72.

9. un clau   Mae Pen 54 a LlWM yn gytûn. Darlleniad y Vetustus, pand clau, sydd yn GDG. Cynghanedd groes gydag n ganolgoll.

10.   Enghraifft o Ddafydd yn cyfarch ei gynulleidfa.

a'i   Y geiryn gofynnol a a'r rhagenw mewnol gwrthrychol 3 un. 'i, cymh. YSG i, 4 A'e gwdost di?

clywewch   2 llu. amherffaith clywed. Fel y nodir yn DGG 174–5, ceir w o flaen ch yn rheolaidd mewn Cymraeg Canol yn yr ail berson lluosog, e.e. byddewch am byddech. Pen 54 yn unig a rydd y ffurf hon. A'i clywech sydd yn fersiwn LlWM, a rhydd fersiwn y Vetustus y darlleniad llai tebygol Nis clywech chwi, sain cloch oedd (CM 129 a Ll 186 naws cloch), a roddai gynghanedd groes yn hytrach na thraws gydag n wreiddgoll a pherfeddgoll.

11.   Cynghanedd lusg wyrdro.

12.   Cymh. 111.22 Mamaeth tywysogaeth tes ('Morfudd fel yr Haul').

13–14.   Ceir yr un gystrawen mewn nifer o'r cywyddau sy'n disgrifio ymweliad â chartre'r ferch, e.e. 54.9–10 Gofyn ... / Am y mur o'm em eirian ('Y Rhew'), a 68.56 Am y maenfur â meinferch ('Tri Phorthor Eiddig'); gw. Johnston (1983), 8–9.

13.   Cynghanedd groeslusg. Fe'i dosberthir uchod fel cynghanedd groes.

mau wâl   Cymh. nid gwaeth gwâl yn ll. 26 isod; LlWM ymwyl. Gwâl yn yr ystyr 'lloches, cuddfan', ond gall olygu 'gwely' yn ogystal mewn cyferbyniad eironig â gwely clyd y ferch. Cymh. 58.35–8 Eiddig dawel o'i wely, / Wrth bryd, llwyr fryd, y lloer fry, / I'm gwâl dan y gwial da / A'm gwŷl i'w emyl yma.

gwialen   Un o'r gwiail a blethid i wneud pared y tŷ, gw. DGG 175, GPC 1653. Enghraifft o gydgymeriad, sef defnyddio'r rhan am y cyfan.

15.   Darlleniad Pen 54, sy'n rhagori fymryn ar fersiwn LlWM, Tosturia wrth anhunglwyf, sef yr hyn a geir yn GDG. Mae'r cwpled hwn a'r nesaf yn eisiau yn fersiwn y Vetustus.

19. rhëydr   Llai tebygol yw erydr Ll 6, ond cymh. y disgrifiadau o bibonwy fel Dannedd og rhywiog o'r rhew (55.22), a Cryn hoelion ... / Cyhyd â rhai og haearn (54.35–6). Rhydd fersiwn y Vetustus y llinell chwesill Aml y rhed o'r bargawd.

20. ermig   'Offeryn, peiriant', bôn y ferf ermygu 'peri, gwneud', gw. GPC 1236 d.g. ermig, ermyg. Ymddengys fod ermig nwyf yn ddisgrifiad o mau gnawd, cymh. GDG t. 515 a Bromwich, SPDG 146 '[my] passion's instrument', ond Gwyn Thomas (DGHP 180) 'O cause of my passion'.

23. tysmwy   'Cryndod', benthyciad efallai o'r Saesneg Canol dismai 'syndod, ofn, anesmwythyd', GPC 3683. Dyma'r enghraifft gynharaf o'r gair.

27–8.   Yn fersiwn y Vetustus daw'r cwpled hwn (Nid oes yn hen Gaernarfon / yng Nghaer yn Arfon ...) ar ôl 19–20, ac ar ôl 15–16 yn Pen 54. Ond gwedda'n dda yma yn dilyn Ni bu boen ar farwgroen fwy ac nid gwaeth gwâl.

27. y Gaer yn Arfon   Un o bedwar prif gastell Edward I yng Ngwynedd, gyda Chonwy, Harlech a Biwmares. Fe'i cwblhawyd tua 1330. Fel y noda Bromwich, SPDG 160, gall fod yma gyfeiriad at ryw garcharor adnabyddus o'r cyfnod. Ceir delwedd debyg yn y cywydd 'Tri Phorthor Eiddig', 68.27–8 Carchar bardd, a mi'n cyrchu / Yn ddigyngor y ddôr ddu ... .

28. heol   Gellid yr ystyr 'buarth, clos' yn hytrach na 'ffordd', gw. GPC 1854.

30.   n wreiddgoll.

ni thechwn   Techu yn yr ystyr 'ymguddio, llercian, ystelcian', gw. GPC 3461. Mae'r ystyr yn gweddu'n dda, a dyma'r darlleniad anos gan fod yr enghreifftiau a restrir yn GPC yn gynharach na'r 14g., ac eithrio'r enghreifftiau geiriadurol mwy diweddar. Yr hyn a geir yn fersiynau LlWM a'r Vetustus yw'r ffurf fwy cyfarwydd tuchwn (cymh. GDG), sy'n awgrymu i'r darlleniad anodd gael ei golli'n gynnar yn nhraddodiad y gerdd.

35. maddeuwn   Maddau yn yr ystyr 'gollwng, rhoi'r gorau i (rywbeth)', cymh. 72.9 Hir y'th faddeuaf, Ddafydd, ac yn arbennig 130.46 Maddau bun a meddu byd. Llai priodol yw darlleniad Pen 54 Ni oddefwnn; mae'r cwpled yn eisiau yn fersiwn y Vetustus.

gwn gyni   Ceir yr un sangiad yn 51.17.

36.   n ganolgoll.

37. trwy annwyd   Mae Pen 54 a LlWM yn gytûn. Vetustus mau annwyd, cymh. Tau ddawn yn y llinell nesaf.

38.   n ganolgoll.

tau ddawn   Sangiad amwys. Cymerir mai 'ffawd dda, lwc' yw'r brif ystyr, fel yn 66.9 Dawn ym dy fod yn fwdwl; cymh. Bromwich, SPDG 146: 'yours is the [good] fortune, [for] you are indoors'. Gwyn Thomas (DGHP 181): '(Your talent!); you are in the house, inside', gyda'r nodyn esboniadol, 'a talent to be cold and frigid'. Gellid hefyd ddeall 'gwobr' neu 'rodd' mewn ystyr goeglyd.

41. enaid glân   Enaid pur, dibechod, ond gall olygu 'anwylyd hardd' yn ogystal, cymh. e.e. 50.4 F'enaid glwys.

42. ellyll   Yn yr ystyr 'ysbryd, drychiolaeth', neu efallai gorff heb enaid (zombie) – gan waeled ei gyflwr nid dyn mohono bellach. Dyna hefyd ergyd yr ymddiddan rhwng Dafydd a'r ferch yng nghywydd 'Y Rhew', 54.11–16 'Ai diddig annwyd oddef? / Ai dyn wyd, er Duw o nef?' / 'Dyn oeddwn heddiw liw dydd / Bydol, gwedy cael bedydd; / Ac ni wn o'm pwn poenglwyf / Weithian, byth eirian, beth wyf.' Cymharer hefyd eiriau Dafydd wrth ei gysgod, 63.21–6 Nage, ŵr hael, anwr hyll, / Nid wyf felly, dwf ellyll. / ... / Tebygach wyd, tebyg chwith, / I drychiolaeth hiraethlawn / Nog i ddyn mewn agwedd iawn.

43.   Pen 54 am oettydd a mi nyd ta, sy'n edrych fel ymgais i gynganeddu'r llinell. Ond mae ymaith / yma yn gyson â'r cyferbyniad a gynhelir yn llau. 37–46, a rhydd ymaith / amwyll gymeriad cryfach.

44.   Vetustus Amwyll a'm etyl yma, yn wahanol i'r ddau fersiwn arall.

45. amod...a wneddwyd   Ystyr yr ymadrodd gwneuthur amod yw cadw addewid neu wneud cytundeb. Cymh. 73.21–2 Gwneuthur .../ Amod dyfod at hoywferch; GMD 14.47–8 A'i nod yw amod yma / Nis gwnaeth, a'r cyfryw nis gwna.