â â â Talu Dyled
1â â â Cywyddau, twf cywiwddoeth,
2â â â Cofl hardd, amdwf cathlfardd coeth,
3â â â Ni bu ag wynt, pwynt apêl,
4â â â Un organ mor annirgel.
5â â â Maendy serch unfam undad
6â â â Yw fy mron a wnâi fy mrad.
7â â â Holl gwmpas y lleidrwas llwyd
8â â â O'r un oll yr enillwyd.
9â â â Rhoais iddi, rhyw swyddau,
10â â â Rhugl foliant o'r meddiant mau,
11â â â Gwrle telyn ac orloes,
12â â â Gormodd rhodd; gwr meddw a'i rhoes.
13â â â Heais mal oraihian
14â â â Ei chlod yng Ngwynedd achlân.
15â â â Hydwf y mae'n ehedeg
16â â â Had tew, llyna head teg.
17â â â Pybyr fu pawb ar fy ôl,
18â â â Ai 'Pwy?' oedd ym mhob heol.
19â â â Pater noster annistaw
20â â â Pawb o'r a gant llorfdant llaw
21â â â Ym mhob cyfedd, ryfedd ri,
22â â â Yw ei cherdd yn wych erddi.
23â â â Tafod a'i tyfodd canmawl,
24â â â Teg ei gwên yw, amên mawl,
25â â â Cans ar ddiwedd pob gweddi,
26â â â Cof cywir, y'i henwir hi.
27â â â Chwaer ydiw, tywynlliw tes,
28â â â I ferch Wgon farchoges.
29â â â Unllais wyf yn lle safai
30â â â Â'r gog, morwyn gyflog Mai.
31â â â Honno ni feidr o'i hannwyd
32â â â Eithr un llais â'i thoryn llwyd.
33â â â Ni thau y gog â'i chogor,
34â â â Crygu mae rhwng craig a môr.
35â â â Ni chân gywydd, lonydd lw,
36â â â Nac acen onid 'Gwcw!'
37â â â Gwys ym Môn mae gwas mynaich
38â â â Fûm i yn ormodd fy maich,
39â â â Yr hwn ni wna, da deutrew,
40â â â Lafur ond un, lawfron dew.
41â â â Dilonydd bwyll, ddidwyll ddadl,
42â â â Dilynais fal daly anadl.
43â â â Defnyddio i'i hurddo hi,
44â â â Defnyddiau cerdd dwfn iddi.
45â â â Yn iach bellach heb allel,
46â â â Na chudd amdanai na chêl.
47â â â Talm sydd iddi, os tolia,
48â â â Ac o dodir ar dir da:
49â â â Saith gywydd i Forfudd fain
50â â â Syth hoywgorff a saith ugain.
51â â â Adyn o'i chariad ydwyf
52â â â Aed ag wynt, dieuog wyf.
53â â â Ni ddeily cariad taladwy;
54â â â Ni ddyly hi i mi mwy.