Testun Golygedig: 99 - Talu Dyled

Fersiwn hwylus i'w argraffu

Talu Dyled

Cywyddau, twf cywiwddoeth,
Cofl hardd, amdwf cathlfardd coeth,
Ni bu ag wynt, pwynt apêl,
4Un organ mor annirgel.
Maendy serch unfam undad
Yw fy mron a wnâi fy mrad.
Holl gwmpas y lleidrwas llwyd
8O'r un oll yr enillwyd.

   Rhoais iddi, rhyw swyddau,
Rhugl foliant o'r meddiant mau,
Gwrle telyn ac orloes,
12Gormodd rhodd; gŵr meddw a'i rhoes.
Heais mal oraihian
Ei chlod yng Ngwynedd achlân.
Hydwf y mae'n ehedeg
16Had tew, llyna head teg.
Pybyr fu pawb ar fy ôl,
Ai 'Pwy?' oedd ym mhob heol.
Pater noster annistaw
20Pawb o'r a gant llorfdant llaw
Ym mhob cyfedd, ryfedd ri,
Yw ei cherdd yn wych erddi.
Tafod a'i tyfodd canmawl,
24Teg ei gwên yw, amên mawl,
Cans ar ddiwedd pob gweddi,
Cof cywir, y'i henwir hi.
Chwaer ydiw, tywynlliw tes,
28I ferch Wgon farchoges.

   Unllais wyf yn lle safai
Â'r gog, morwyn gyflog Mai.
Honno ni feidr o'i hannwyd
32Eithr un llais â'i thoryn llwyd.
Ni thau y gog â'i chogor,
Crygu mae rhwng craig a môr.
Ni chân gywydd, lonydd lw,
36Nac acen onid 'Gwcw!'
Gwŷs ym Môn mae gwas mynaich
Fûm i yn ormodd fy maich,
Yr hwn ni wna, da deutrew,
40Lafur ond un, lawfron dew.

   Dilonydd bwyll, ddidwyll ddadl,
Dilynais fal daly anadl.
Defnyddio i'i hurddo hi,
44Defnyddiau cerdd dwfn iddi.
Yn iach bellach heb allel,
Na chudd amdanai na chêl.
Talm sydd iddi, os tolia,
48Ac o dodir ar dir da:
Saith gywydd i Forfudd fain
Syth hoywgorff a saith ugain.
Adyn o'i chariad ydwyf
52Aed ag wynt, dieuog wyf.
Ni ddeily cariad taladwy;
Ni ddyly hi i mi mwy.