Talu Dyled
Cywyddau, twf gwych a doeth,
coflaid hardd, tyfiad da bardd cerddi coeth-
ni fu un organ (pwynt o apêl)
4 mor amlwg â hwy.
Ty cerrig serch (o'r un fam a'r un tad)
sy'n fy mradychu yw fy mron.
Cenhedlwyd holl gwmpas y lleidr llwyd
8 o'r un peth.
Rhoddais iddi (rhyw swyddau)
foliant rhugl o'm heiddo,
llais telyn a chloc,
12 gormod o rodd; gwr meddw a'i rhoes.
Heais fel ynfytyn serchog
ei chlod yng Ngwynedd drwyddi draw.
Yn ffrwythlon y mae had trwchus yn hedfan,
16 dyna head teg.
Bu pawb ar fy ôl yn bybyr,
a'u 'Pwy?' oedd ym mhob ffordd.
Paternoster swnllyd [sy'n eiddo i]
20 bawb o'r rheini a ganodd [y] tant llaw hwyaf
ym mhob gwledd (frenin arbennig)
yw ei cherdd [sydd] yn wych er ei mwyn.
Tyfodd tafod ganmoliaeth
24 (teg ei gwên yw), amen mawl,
oherwydd ar ddiwedd pob gweddi,
(cof cywir) fe'i henwir hi.
Chwaer ydyw, lliw pelydrau tes,
28 i ferch Gwgon [y] farchoges.
Yr un llais sydd gennyf, yn lle y safai hi,
â'r gog, morwyn gyflog Mai.
Honno ni fedr [gynhyrchu] oherwydd ei natur
32 ond un llais, â'i chlogyn llwyd.
Ni rydd y gog daw ar ei chleber,
crygu y mae rhwng craig a môr.
Ni chân gywydd, llw hapus,
36 nac acen ond 'Gwcw!'
Gwyddys ym Môn mai gwas mynaich
fûm i yn ormod fy maich,
yr hwn ni wna (da yw dau disian)
40 ond un gwaith (mynwes dew).
[Â] meddwl aflonydd, dadl ddidwyll,
dilynais fel [un yn] dal anadl,
[a] defnyddio i'w hurddo hi
44 ddefnyddiau [crai] dwfn barddoniaeth iddi.
Ffarwél bellach heb allu [canfod]
o'i herwydd na chuddle na lloches.
Llwyth sydd ganddi, os yw'n cynilo,
48 ac os dodir [hwy] ar dir da:
saith gywydd a saith ugain i Forfudd fain
syth a hardd ei chorff.
Rwyf yn adyn oherwydd ei chariad,
52 bydded [iddi] fynd â hwy, rwyf yn ddieuog.
Nid yw cariad gwerthfawr yn gofyn am dâl;
nid oes arni ddim imi bellach.